Symud i'r prif gynnwys

Chwiliwch fynegai cyn-1837 o'r ffurflen hon. Does dim mynegai ar gyfnod y cyfnod wedi-1837, ond gallwch archebu bocs ar gyfer y flwyddyn dan sylw ar y Catalog.

Beth oedd Ymrwymiadau Priodas?

Roedd ymrwymiad priodas yn galluogi rhoi trwydded i briodi heb orfod cyhoeddi gostegion yn yr eglwys ar dri Sul yn olynol cyn y briodas. Mae'r ymrwymiadau yn rhoi manylion diddorol am y ddau oedd yn priodi gan gynnwys enwau, dyddiadau, lleoliad, oed a gwaith y priodfab. Dim ond yr ymrwymiadau ac affidafidion hyd at 1837 sydd wedi mynegeio, ond mae cofnodion yn ymestyn i mewn i'r 20fed ganrif.

Cymorth wrth chwilio

  • Os wyddoch chi enw llawn y person, defnyddiwch "" o'i gwmpas yn y blwch chwilio. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond canlyniadau chwilio'n cynnwys yr enw llawn bydd yn ymddangos. Os chwiliwch chi am yr enw heb "", fe gewch ganlyniadau'n cynnwys yr enw llawn, ond hefyd rhai'n cynnwys y naill enw neu'r llall yn unig ee byddai chwilio am Mary Jones yn dangos canlyniadau yn cynnwys Mary Jones, Mary yn unig a Jones yn unig.
  • Os wyddoch chi enw'r ddau berson, defnyddiwch AND rhwng yr enwau er mwyn cyfyngu eich canlyniadau i rai'n cynnwys y ddau berson yn unig ee byddai chwilio am "Mary Jones" AND "John Jones" yn dangos canlyniadau sy'n cynnwys Mary Jones a John Jones yn unig.
  • Os wyddoch chi ddyddiad yr ymrwymiad, gallwch fireinio'ch chwiliad trwy ddefnyddio 'Dyddiad Creu' yn y golofn dde wrth edrych ar y canlyniadau.