Oriau Agor
Mae oriau agor arddangosfeydd yn wahanol i oriau agor cyffredinol y Llyfrgell. Cewch fanylion am y ddau ar ein tudalen oriau agor.
Arddangosfa wedi'i churadu gan yr hanesydd celf Peter Lord, sy'n cyfuno ei gasgliad personol helaeth gydag eitemau o’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn y Llyfrgell am y tro cyntaf er mwyn adrodd stori bwysig celf Gymreig.
16 Tachwedd 2024 - 06 Medi 2025
Oriel Gregynog a’r anecs
Mae tri artist cyfoes, Mo Hassan, Ali Goolyad a Kyle Legall, wedi ymateb yn greadigol i waith Mohamed Amin (1943 – 1993) gan ddangos natur newid yn yr ugeinfed ganrif, drwy ffotograffiaeth, barddoniaeth a phaentio.
19 Hydref 2024 - 1 Mawrth 2025
Uwch Gyntedd
Arddangosfa barhaol o drysorau gwerthfawr, prin, hen, hardd neu eiconig o gasgliadau’r Llyfrgell.
Parhaol
Hengwrt
Ymgollwch eich hun yn stori darlledu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf. Gwyliwch a gwrandewch ar uchafbwyntiau o Archif Ddarlledu Cymru, yn amrywio o'r sylw a roddwyd yn y wasg i ddigwyddiadau o bwys a chlipiau yn dangos bywyd a diwylliant Cymreig.
Parhaol
Archif Ddarlledu Cymru
Mae oriau agor arddangosfeydd yn wahanol i oriau agor cyffredinol y Llyfrgell. Cewch fanylion am y ddau ar ein tudalen oriau agor.
Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell.