Dyma rai ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn ein gweithgareddau:
Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o projectau diddorol trwy ddod yn wirfoddolwr yn y Llyfrgell. Dysgwch fwy am y Rhaglen Gwirfoddoli.
Mae Cynefin yn broject Archifau Cymru i ddigido a adysgrifio mapiau degwm Cymru. Gallwch gymryd rhan yn y gwaith hwn trwy gofrestru ar wefan Cynefin a'n helpu i adysgrifio'r mapiau a'r rhestrau pennu.
Cadwch lygad ar dudalen Swyddi y Llyfrgell am gyfleon i ymuno â'r staff.
Gallwch gefnogi gwaith y Llyfrgell ymhob ffordd trwy ddod yn un o Gyfeillion y Llyfrgell.
Gallwch hefyd roi yn ariannol i'r Llyfrgell mewn nifer o ffyrdd.
Tanysgrifiwch i gylchlythyr y Llyfrgell i gael y newyddion diweddaraf.