Sut i wneud ymchwil Hanes Teulu
Mae’r Llyfrgell yn drysorfa o wybodaeth ar gyfer archwilio’ch hanes teulu.
O’r casgliad ewyllysiau i ymrwymiadau priodas, neu’r papurau ystadau i gofnodion yr Eglwys yng Nghymru, mae hanes teuluoedd Cymru ar gof a chadw yn y Llyfrgell.
Os ydych chi’n newydd i’r maes a ddim yn siwr lle i ddechrau, gall ein tudalennau cymorth eich rhoi ar ben ffordd. Yn yr un modd, os ydych chi wedi bod yn gwneud ymchwil mewn mannau eraill, bydd ein tudalennau cymorth hanes teulu yn esbonio beth sydd ar gael yn y Llyfrgell.