Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
 
 Casgliad o wahanol fathau o ffotograffau cynnar, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn eu casys lledr, efydd a melfed gwreiddiol.
 
 Ffotograffau cynnar, o ardal Abertawe (1840-1860).
![Frances Denman, Dulcie Eden & Mary Dillwyn [c.1853] Albwm Llysdinam, Mary Dillwyn](/fileadmin/_processed_/7/5/csm_mary_dillwyn_d655cb59d2.jpg) 
 Albwm ffotograffig gan Mary Dillwyn, ffotograffwraig gynharaf Cymru ac un o ffotograffwyr benywaidd cynnar mwyaf nodedig Prydain
 
 Tir a phobl Cymru trwy gamera John Thomas (1838-1905), Lerpwl.
 
 Ffotograffau gan Carleton E Watkins (1829-1916), un o brif ffotograffwyr tirlun America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
 
 Ffotograffau gan P B Abery o sir Frycheiniog a'r Gororau.
 
 Cyfres o gardiau post yn cofnodi'r trychineb mwyaf yn hanes diwydiant glo Cymru, 1913.
 
 Casgliad H W Lloyd, Y Bala o negatifau o’r cyfnod rhwng 1900 a 1925, yn cynnwys delweddau o garcharorion rhyfel Gwersyll Frongoch.
 
 Archif enfawr y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002).
 
 Ffotograffau a sleidiau o Batagonia a dynnwyd gan W R Owen (1955 a 1965)
 
 Mae portreadau milwrol D C Harries yn amhrisiadwy gan eu bod yn dogfennu bywyd a ffotograffiaeth yng Nghymru yn ystod cyfnod y Rhyfel Mawr.