Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
22 cerdyn post gan y ffotograffydd W. Benton, yn cofnodi tanchwa drychinebus Glofa'r Universal, Senghennydd, ar ddydd Mawrth, 14 Hydref 1913 pan laddwyd 439 o weithwyr.
Tyfodd pentref Senghennydd (Caerffili) o gwmpas pwll yr Universal Steam Coal Company pan ddechreuwyd cloddio am lo yno yn ystod yr 1890au. Wrth i gysylltiadau rheilffordd wella a'r galw am lo gynyddu daeth pyllau dyfnion yn llawer mwy proffidiol i'w gweithio, a hynny er gwaethaf yr anawsterau o gloddio o dan y fath amgylchiadau: gorfod gweithio mewn llefydd cyfyng, llifogydd, nwy a llwch. Daeth Senghennydd yn gyfarwydd iawn â'r peryglon hyn i gyd.
Yn 1901 cafwyd tanchwa ddifrifol yn y lofa pan gollodd 82 o weithwyr eu bywydau. Ond ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, fore Mawrth, 14 Hydref 1913, digwyddodd y trychineb mwyaf difrifol yn hanes diwydiant glo Cymru. Lladdwyd 439 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn. Yn dilyn tanchwa 1901 gwnaed argymhellion ynglŷn â diogelwch mewn pyllau dyfnion, ac roedd peryglon yr Universal yn hysbys, ond parhau i gynyddu wnaeth y cynhyrchu yn ogystal â'r nifer oedd yn gweithio yno o dan amodau difrifol iawn.
Erlyniwyd rheolwr y pwll a'r perchnogion o ganlyniad i drychineb 1913. Ond roedd y canlyniad yn siom i'r gweithwyr a'r teuluoedd yn eu galar. Gorchmynnwyd y rheolwr i dalu dirwy o £24 ond gollyngwyd yr holl gyhuddiadau yn erbyn y perchnogion. Ar apêl fe'u gorchymynnwyd i dalu dirwy o £10 a chostau o £5 5s.
Parhawyd i weithio'r pwll tan 1928. Ni chodwyd cofeb i'r rhai a gollwyd tan 1981.
Oherwydd maint y trychineb roedd diddordeb mawr yn yr hyn a ddigwyddodd. I ddiwallu'r awydd hwnnw am wybodaeth cynhyrchwyd y cardiau post hyn. Mae'n rhaid fod y ffotograffydd W. Benton wedi cyrraedd yr ardal yn fuan wedi'r trychineb er mwyn cofnodi'r digwyddiad. Roedd gan y ffotograffydd stiwdio yn George Street, Glasgow, ond fe fyddai'n arbenigo mewn cofnodi trychinebau. Wedi cyrraedd yr ardal fe huriodd ystafell leol a mynd ati i dynnu lluniau o'r golygfeydd yn dilyn y trychineb gan gyhoeddi cyfres o 25 o gardiau post. Nid yw'r gyfres gyfan yn y Llyfrgell, ond o'r cardiau sydd wedi'u defnyddio, y dyddiad postio cynharaf yw 22 Hydref, wyth diwrnod wedi'r danchwa, ac mae'r holl gardiau a ddefnyddiwyd yn cario marciau post o gyffiniau Senghennydd ei hun.
Heddiw mae'r syniad o gynhyrchu cardiau post yn nodi'r fath ddigwyddiad yn ymddangos yn erchyll. Ond rhaid cofio fod y delweddau yn debyg iawn i'r hyn y buaswn ni'n disgwyl eu gweld ar deledu neu dudalennau newyddiadur. Felly, rhaid gweld y cardiau post hyn fel esiamplau gwych o ffoto-newyddiaduraeth gynnar.