Symud i'r prif gynnwys

Mae casgliad H W Lloyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros 400 o negatifau o'r cyfnod rhwng 1900 a 1925. Credir mai H W Lloyd oedd y ffotograffydd ac yn ôl y sticer ar gefn un o'r delweddau, fferyllydd ydoedd yn 72, Stryd Fawr, Y Bala. Gwydr yw'r rhan fwyaf o'r negatifau ond gwnaed rhai o ffilm gwreiddiol. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o ffotograffau, o garcharorion rhyfel Almaenig i'r Sasiwn, ac o olygfeydd gwledig tawel i ddadorchuddio cofeb rhyfel. Mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddelweddau o ddigwyddiadau unigol neu rai a gynhaliwyd yn rheolaidd.

Nodwyd dyfodiad 300 o garcharorion rhyfel Almaenig yng Ngwersyll Frongoch ar 24 Mawrth, 1915 yn y Cambrian News yr wythnos honno. Credir i'r delweddau o garcharorion rhyfel yng nghasgliad H W Lloyd gael eu troi'n gardiau post i'w hanfon adref. Ceir ffotograffau o gynyrchiadau theatrig y milwyr a ffotograffau ohonynt yn eu lifrai milwrol. Ymddengys bod y cynyrchiadau theatrig yn amrywio o sioeau adloniant, dramâu a pherfformiadau cerddorfaol.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd digwyddiadau'n ymwneud â bywyd crefyddol trigolion yr ardal hon yn gyffredin iawn a chynhelid gorymdeithiau adeg Sasiwn Y Bala. Ceir delweddau o sawl un o'r digwyddiadau hyn ond ymddengys mai gorymdaith 1901 ddenodd y dorf fwyaf ac fe'i mynychwyd gan nifer fawr o blant. Roedd y rhaglen genhadol yn weithgar yn ogystal gydag arddangosfeydd i ddangos y cynnydd a wnaed dramor.

Mae modd gweld y casgliad cyflawn trwy Gatalog LlGC (nodwch 'H. W. Lloyd photographic collection' yn y blwch chwilio a dewiswch 'teitl').

Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiadau arbennig hyn yn:

Dolenni perthnasol

Catalog