Symud i'r prif gynnwys

Mae casgliad Dwynwen Belsey yn cynnwys ffotograffau a sleidiau o Batagonia a dynnwyd gan W. R. Owen, cynhyrchydd radio i’r BBC, ym 1955 yn ystod taith i ymchwilio a recordio rhaglenni radio i’r BBC, ac ym 1965 yn ystod dathliadau canmlwyddiant y mudo i Batagonia.

William Richard Owen, 1906-1982

Ganwyd W. R. Owen yng Nghaergybi ym 1906. Fe'i addysgwyd yno ac yn Ysgol Uwchradd Penbedw. Symudodd y teulu'n ôl i Gymru pan oedd tua 18 oed, a hyfforddodd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n Llyfrgellydd Dinas Bangor tan 1941. Gwrthodwyd ef gan y Lluoedd Arfog oherwydd problemau gyda'i olwg, ac ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd. Bu W. R. Owen yn flaenllaw'n sefydlu Adrannau Rhaglenni Recordiedig a Darlledu Tramor, gan osod cynsail gadarn i ddatblygiad darlledu modern yng Nghymru. Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn darlledu a materion cyfoes, a bu'n recordio a darlledu prif ddigwyddiadau Cymru.

Roedd yr Adran Darlledu Tramor yn darlledu rhaglenni radio ar faterion cyfoes â Chymreig mewn rhaglen o'r enw Welsh Magazine, a daniodd ddiddordeb W.R. Owen yn Y Wladfa. Treuliodd gyfnod yno ym 1955 yn recordio a chynhyrchu'r rhaglenni Cymraeg cyntaf o Batagonia. Cyfarfu ag arweinyddion y cymunedau Cymreig a ffigyrau dylanwadol y dalaith, a darlledwyd tair rhaglen - cyflwynodd Dwynwen Belsey ei recordiadau cynnar i'r Llyfrgell yn 2012.

Arweiniodd y rhaglenni yma at ail-gynnau'r diddordeb a'r cyswllt rhwng y ddwy wlad, a sefydlwyd pwyllgorau i drefnu dathlu canmlwyddiant y mudo cyntaf. Bu'r ail-gysylltu'n symbyliad i'r disgynyddion ymddiddori yn eu tras a'u gwreiddiau, a theithiodd ieuenctid i Gymru i ddysgu am eu treftadaeth. Dychwelodd W.R Owen gyda mintai o Gymry blaenllaw i ddathlu'r canmlwyddiant ym 1965.

Ym 1963 symudodd W.R Owen i fod yng ngofal swyddfeydd y BBC ym Mangor, gan ymddeol ym 1971 wedi gyrfa lwyddiannus. Parhaodd i fyw yno gyda'i wraig Nell tan ei farwolaeth ym 1982. Roedd ganddynt ddwy ferch, Rhiannon a Dwynwen.

Casgliad Dwynwen Belsey

Rhoddwyd y casgliad i'r Llyfrgell gan ei ferch Dwynwen ym 1995. Mae'n cynnwys ffotograffau a sleidiau a oedd yn berchen neu a dynnwyd gan W.R. Owen yn ystod ei ymweliadau â Phatagonia ym 1955 a 1965.

Mae'r delweddau'n cynnwys golygfeydd o Buenos Aires a phentrefi'r Wladfa, adeiladau a chapeli, y trigolion a'r diwylliant lleol, ynghyd â delweddau o ddathliadau'r canmlwyddiant. Cofnodir y cyfan – o'r daith awyren a'r teithwyr, ciniawau swyddogol, cymanfaoedd canu, gwasanaethau, dawnsfeydd, cyngherddau, dramâu, asados, a'r cofebion a ddadorchuddiwyd yn ystod y dathliadau. Ceir hefyd rai cardiau post yn dangos golygfeydd ac adeiladau'r ardal, a delweddau a gasglodd W.R. Owen fel rhan o'i ymchwil. Derbyniodd y Llyfrgell hefyd gasgliad o lawysgrifau yn ymwneud â hanes y Wladfa a'i phobl (NLW MSS 19100B, 19101E), a ffilm, 'Patagonia '65', a greodd yn ystod ei ymweliad ym 1965 (Rhif teitl 6332115).

Mudo i Batagonia

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymfudodd nifer fawr o Gymry yn y gobaith o gael bywyd gwell - doedd dim gwaith, ac roedd llawer yn byw mewn tlodi. Heidiodd llawer i America, lle cychwynnodd Michael D. Jones gymdeithasau i'w cynorthwyo i gadw'u hunaniaeth, ond sylweddolodd mai'r unig ffordd i ddiogelu'r iaith a'r diwylliant Cymreig oedd sefydlu gwladfa, a throdd ei olygon at Batagonia. Anfonodd gynrychiolwyr i Buenos Aires i drafod telerau gyda llywodraeth yr Ariannin, a sicrhawyd 25 cuadra (tua 100 erw) o dir i bob teulu. Ym 1865, hwyliodd tua 150 o Gymry ar y Mimosa, ond sylweddolwyd yn gyflym nad oedd y wlad mor ddelfrydol ag yr awgrymwyd. Gwellodd y sefyllfa'n raddol wrth iddynt ddysgu hela, a thorri camlesi i ddyfrhau a ffrwythloni’r tir.

Er gwaethaf yr ymdrech i ddiogelu eu hiaith a'u traddodiadau, erbyn 1950 Sbaeneg oedd cyfrwng y cyfathrebu y tu allan i'r cartref a'r capel, ac anghofiodd y Cymry adref am y drefedigaeth Gymreig ym Mhatagonia.

O ganlyniad i'r adroddiadau am hanes y canmlwyddiant yn y wasg Gymreig ym 1965, cynyddodd yr ymwybyddiaeth a'r diddordeb am hanes yr ymfudwyr. Denwyd twristiaid o Gymry, a cychwynnodd athrawon ail-iaith fynd yno o'u gwirfodd i redeg dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Cynyddodd y cyswllt, a noddodd y Swyddfa Gymreig athrawon Cymraeg i fynd yno i gryfhau'r iaith, hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg lleol, a datblygu gweithgareddau diwylliannol, ac o ganlyniad dechreuwyd dysgu Cymraeg fel pwnc yn yr ysgolion am y tro cyntaf ers canrif.

Llyfryddiaeth a darllen pellach

  • Bryn Williams, Gwladfa Patagonia 1865–2000, Gwasg Carreg Gwalch, 2000;
  • Y Wladfa, Wikipedia [gwelwyd 3 Mawrth 2013];
  • Y Wladfa - (Patagonia), rhan o'r rhaglen ddogfen gan John Ormond ar gyfer y BBC am y wladfa Gymreig a sefydlwyd yn Chubut 'The Desert and the Dream', 1961 [gwelwyd 3 Mawrth 2013]. Mae copi o'r ffilm gyfan, a fersiwn Gymraeg, 'Y Gymru Bell', yn Archif Sgrin a Sain Cymru;
  • Gwybodaeth gan Dwynwen Belsey.