Yma gallwch weld cyfraniadau’r Llyfrgell fesul thema. O lawysgrifau i bapurau newyddion, geiriaduron i lyfrau coginio, ac o lenyddiaeth plant i faledi; maent oll â rhywbeth i’w gynnig wrth olrhain hanes llythrennedd. O’r eiconig i’r annisgwyl, ceir ynddynt fel cyfres grynhoad aml-haenog o esblygiad darllen ac ysgrifennu yng Nghymru a thu hwnt, a hynny o ganol y drydedd ganrif ar ddeg i ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Ym mis Hydref 2018 rhannodd y Llyfrgell nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ bu’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop.
Yn sgil y fenter, mae modd i ddefnyddwyr gael mynediad i stôr eang o wrthrychau testunol, gyda llawer ohonynt i’w gweld am y tro cyntaf ar lwyfan ddigidol: o lawysgrifau i gyfrolau print, cyfnodolion i bapurau newyddion.
Cafodd yr eitemau eu trin a’u trafod mewn cyfresi golygyddol, oll yn ffocysu, mewn rhyw fodd neu’i gilydd ar ddatblygiad llythrennedd yn Ewrop. Buom fel partneriaid yn cydweithio ar ystod o gynnwys curadurol, o arddangosfeydd digidol a blogiau i galerïau gweledol, a fu’n asesu arwyddocâd y gwrthrychau mewn cyd-destun Traws-ewropeaidd. Cyhoeddwyd yr elfennau curadurol yma ar Europeana Collections o fis Hydref 2018 ymlaen.
Themâu
- Rhyddiaith a Nofelau
- Cyhoeddiadau Crefyddol
- Cyfrolau Barddoniaeth
- Dramâu ac Anterliwtiau
- Baledi
- Cyhoeddiadau Cymreig tu hwnt i Gymru
- Llenyddiaeth Plant
- Llyfrau Teithio
- Llyfrau Hanes
- Cerddoriaeth
- Cyhoeddiadau Gwleidyddol a Radicalaidd
- Y Llyfrau Gleision
- Llyfrau Gwyddonol a Mathemategol
- Coginion a Ffordd o Fyw
- Geiriaduron a Llyfrau Gramadeg
Dolenni perthnasol


Darganfod & Dysgu
- Arddangosfeydd arlein
- Europeana Rise of Literacy
- Rhyddiaith a Nofelau
- Cyhoeddiadau Crefyddol
- Cyfrolau Barddoniaeth
- Dramâu ac Anterliwtiau
- Baledi
- Tu Hwnt i Gymru
- Llenyddiaeth Plant
- Llyfrau Teithio
- Llyfrau Hanes
- Cerddoriaeth
- Cyhoeddiadau Gwleidyddol a Radicalaidd
- Y Llyfrau Gleision
- Llyfrau Gwyddonol a Mathemategol
- Coginio a Ffordd o Fyw
- Geiriaduron a Llyfrau Gramadeg
- Illingworth
- David Lloyd George
- Calendr Cymru a'r Byd
- Llawysgrifau
- Archifau
- Deunydd print
- Darluniau
- Mapiau
- Ffotograffau
- Dylan Thomas
- Europeana Rise of Literacy
- Addysg