Symud i'r prif gynnwys

Ymchwil hanes teulu

Dyma ychydig o ffyrdd y gallwn ni helpu:

Dysgu mwy am eich cartref neu ardal leol

Mae gwefan Lleoedd Cymru yn lle gwych i ddechrau.

Yma gallwch chwilio a phori dros 300,000 o gofnodion mapiau degwm Cymru. Gallwch weld y mapiau eu hunain a'r dogfennau cysylliedig a'u cymharu â mapiau mwy diweddar. Pwy oedd yn berchen ar eich cartref, sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol - mae'r cyfan ar wefan Lleoedd Cymru.

Mae yna hefyd 1.2 miliwn o dudalennau ar wefan Cylchgronau Cymru sy'n perthyn i'r cyfnod rhwng 1735 a 2007 i’ch helpu gyda'ch ymchwil hanes lleol. Porwch drwy 450 o gyfnodolion gwahanol i weld beth allwch chi ei ddarganfod am eich ardal leol.

Adnoddau dysgu plant

Mae Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn cynnig llawer o adnoddau addysgol am ddim. Mae'r adnoddau sydd ar gael ar dudalennau'r Gwasanaethau Addysg a Hwb, yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o Dywysogion Cymru i'r Ail Ryfel Byd, i gelf ac ysbrydoli creadigrwydd.

Ac yn ystod amser chwarae, beth am roi cynnig ar yr Her Adeiladu Digidol ac ail-greu Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio Minecraft, Lego neu unrhyw gêm floc arall! Bydd fideos, cynlluniau llawr, dimensiynau a lluniau, i gyd ar gael ar Hwb, yn eich helpu ar hyd y ffordd.