Symud i'r prif gynnwys

Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.

Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr ers 1662.

O 6 Ebrill 2013, mae adneuo cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn ddigidol ac arlein, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol ddarparu archif genedlaethol o ddeunydd a gyhoeddwyd heb ei argraffu yn y Deyrnas Unedig, megis gwefannau, blogiau, e-gylchgronau a deunydd ar CD-ROM.

Dyma’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol:

  • y Llyfrgell Brydeinig,
  • Llyfrgell Genedlaethol yr Alban,
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
  • Llyfrgelloedd Bodleian, Rhydychen,
  • Llyfrgell y Brifysgol, Caergrawnt, a
  • Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn.

Mae gan y system adnau cyfreithiol fanteision hefyd i awduron a chyhoeddwyr:

  • Mae cyhoeddiadau a adneuwyd ar gael i ddefnyddwyr y llyfrgelloedd adnau yn y llyfrgelloedd hynny, cânt eu cadw er mwyn y cenedlaethau a ddaw, a deuant yn rhan o dreftadaeth y genedl.
  • Caiff y cyhoeddiadau eu cofnodi yn y catalogau ar-lein, a byddant yn adnodd ymchwil hanfodol i genedlaethau i ddod.
  • Caiff y rhan fwyaf o’r llyfrau a theitlau cyfnodolion newydd eu rhestru yn Llyfryddiaeth Genedlaethol Prydain (BNB), a ddefnyddir gan lyfrgellwyr a masnachwyr llyfrau ar gyfer dewis stoc; mae’r Llyfryddiaeth ar gael ar CD-ROM mewn fformatau cyfnewid MARC, ac mae iddi ddosbarthiad byd-eang.
  • Mae cyhoeddwyr o bryd i’w gilydd wedi gofyn i’r llyfrgelloedd adnau am gopïau o’u cyhoeddiadau eu hunain nad ydynt yn eu meddiant mwyach ond sydd wedi’u cadw drwy adneuo cyfreithiol.
  • Mae adneuo cyfreithiol yn cynnal cylch o wybodaeth, a gall gweithiau a adneuwyd gynnig ysbrydoliaeth a ffynonellau ar gyfer llyfrau newydd a gyhoeddir maes o law.

Cwestiynau Cyffredin

Pa ddeunydd gaiff ei adneuo?

Mae’r deunydd sy’n destun adneuo cyfreithiol yn cynnwys llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd printiedig, microffilm, cyhoeddiadau ar gyfryngau cludadwy fel disgiau CD-ROM, gwefannau a deunyddiau sydd ar gael i’w lawrlwytho.

Rhaid adneuo cyhoeddiadau print a gweithiau ar gyfryngau cludadwy fel CD-ROM gyda’r Llyfrgell Brydeinig o fewn mis i’w cyhoeddi; mae gan Lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol eraill hawl i gopïau hefyd os gofynnant amdanynt o fewn 12 mis i’r dyddiad cyhoeddi.

Bydd Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn copïo deunydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig o’r rhyngrwyd, gan gynnwys deunydd sydd ar gael i bawb ar y we agored. Gallant hefyd gywain copïau o ddeunydd a warchodir gan gyfrinair neu y codir tâl amdano, ond maent yn gwneud trefniadau eraill ar gyfer unrhyw gyhoeddwr sy’n dewis anfon y cyfryw ddeunydd atynt ei hun.

Am fanylion ychwanegol, gweler:

Sut mae gweld y deunydd?

Mae deunyddiau a gesglir drwy adneuo cyfreithiol, gan gynnwys archif gwefannau, ar gael yn adeiladau’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol – fel arfer yn ystafell ddarllen pob sefydliad.

Ni all cyhoeddiad electronig a adneuwyd gael ei ddangos ar fwy nag un cyfrifiadur ar y tro yn adeiladau pob Llyfrgell Adnau Cyfreithiol, i gydymffurfio â Rheoliadau 2013.

Am fanylion ychwanegol, gweler: Mynediad i ddefnyddwyr

Pa gynnwys sydd ar gael nawr?

Mae gan bob Llyfrgell Adnau Cyfreithiol gasgliad sylweddol o lyfrau, cylchgronau a cyhoeddiadau print eraill, ar gael i’w hastudio mewn Ystafelloedd Darllen. Wrth i Reoliadau 2013 ddod i rym, bydd y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn gallu casglu deunyddiau digidol yn helaeth am y tro cyntaf, felly disgwylir i’r casgliad dyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd a ddaw.

Bydd defnyddwyr yn gallu cael mynediad at ystod o erthyglau cylchgronau electronig a deunyddiau digidol eraill yn syth. Dechreuir cynaeafu gwefannau parth y Deyrnas Unedig ar raddfa fawr cyn bo hir, a bydd canlyniadau’r cywain cyntaf ar gael yn y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol tua diwedd y flwyddyn.