Symud i'r prif gynnwys

Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.

Mae Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 yn berthnasol i unrhyw un sy’n cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Yn achos gweithiau a gyhoeddir mewn print, mae’n cynnwys y categorïau canlynol:

  • llyfr (yn cynnwys pamffled, cylchgrawn neu bapur newydd),
  • dalen o argraffwaith neu gerddoriaeth,
  • map, cynllun, siart neu dabl, a
  • rhan o unrhyw waith o’r fath.

Rhaid adneuo pob cyhoeddiad newydd a phob argraffiad newydd o gyhoeddiad, a all gynnwys cywiriadau, newidiadau neu gynnwys ychwanegol. Ond nid oes rhaid adneuo ailargraffiadau syml. At hynny, nid oes rhaid i gyhoeddwyr adneuo’r categorïau deunydd canlynol oni wneir cais ysgrifenedig amdanynt gan lyfrgell adnau cyfreithiol:

  • Adroddiadau mewnol
  • Papurau arholiad
  • Amserlenni trafnidiaeth leol
  • Dyddiaduron apwyntiadau
  • Calendrau wal a desg
  • Posteri

Dylid nodi nad y ffaith fod eitem wedi cael Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN) neu Rif Cyfnodolyn Safonol Rhyngwladol (ISSN) sy’n golygu bod rhaid ei hadneuo, ond y ffaith ei bod wedi’i chyhoeddi. Dyfernir bod gwaith wedi’i gyhoeddi pan fydd copïau ohono ar gael i’r cyhoedd. Does dim ots ym mhle y cafodd ei gyhoeddi neu ei argraffu, beth yw natur yr argraffnod na faint o gopïau a ddosbarthwyd. Y weithred o gyhoeddi neu ddosbarthu i’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig sy’n peri bod gwaith yn agored i’w adneuo.

I wybod mwy:

Rwy’n cyhoeddi’r un cynnwys mewn cyfryngau print a digidol; oes angen imi barhau i adneuo print?