Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Rhaid adneuo pob cyhoeddiad newydd a phob argraffiad newydd o gyhoeddiad, a all gynnwys cywiriadau, newidiadau neu gynnwys ychwanegol.
Mae gan y Llyfrgell Brydeinig hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob cyhoeddiad o fewn mis i ddyddiad ei gyhoeddi. Rhaid i’r copi a adneuir fod “o’r un ansawdd â’r copïau gorau, ar adeg y cyflwyno, a gynhyrchwyd i’w cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig” [Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003]. Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cyhoeddi derbynneb am bob gwaith a adneuir.
Dylid anfon copïau i’r Llyfrgell Brydeinig i’r cyfeiriad isod:
Legal Deposit Office
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY
Ffôn: +44 (0)1937 546268 (monograffau)
+44 (0)1937 546267 (cyfnodolion)
+44 (0)1937 546409 (papurau newydd)
Ebost: legal-deposit-books@bl.uk (monograffau)
legal-deposit-serials@bl.uk (cyfnodolion)
LDO.newspapers@bl.uk (papurau newydd)
Mae gan Lyfrgelloedd Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn bob un hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob cyhoeddiad y gofynnant amdano.
Rhaid i’r copïau i’r llyfrgelloedd adneuo hyn gael eu danfon i gyfeiriad penodol. Ers blynyddoedd bellach maent wedi rhannu asiant ar gyfer gofyn am a derbyn gweithiau a adneuir:
The Agent
Agency for the Legal Deposit Libraries
161 Causewayside
Edinburgh
EH9 1PH
Ffôn: +44 (0)131 623 4680