Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Rhaid adneuo pob cyhoeddiad newydd a phob argraffiad newydd o gyhoeddiad, a all gynnwys cywiriadau, newidiadau neu gynnwys ychwanegol.
Cod 13 digid yw ISBN sy’n adnabod argraffiad penodol o deitl llyfr gan un cyhoeddwr penodol ac sy’n unigryw i’r argraffiad hwnnw.
Cyhoeddir codau ISBN i gyhoeddwyr y Deyrnas Unedig gan:
UK International Standard Book Numbering Agency
3rd Floor
Midas House
62 Goldsworth Road
Woking
GU21 6LQ
Ffôn: +44 (0)1483 712 215
Ebost: isbn.agency@nielseniq.com
Gwefan: 'Nielsen ISBN Store'
Cod 8 digid yw ISSN sy’n adnabod cyhoeddiad cyfnodol, h.y. cyhoeddiad a gyhoeddir mewn rhannau olynol, dan deitl cyffredin, ac y bwriedir iddo barhau am gyfnod penagored. Cyhoeddir rhifau ISSN gan:
ISSN UK Centre
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BQ
Ffôn: +44 (0)1937 546959
Ebost: issn-uk@bl.uk