Symud i'r prif gynnwys

Porwch a chwiliwch drwy gynnwys arlein o'r DU gan ddefnyddio teclyn mynediad Archif We y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’n cynnwys miliynau o safleoedd o barth ‘.uk’ a llawer mwy o rai eraill yn seiliedig yn y DU, lle mae llyfrgelloedd adnau cyfreithiol y DU yn medru cynhaeafu drwy chwilio’r holl barthau.

Pwy sydd â mynediad?

Mae unrhyw un sydd â thocyn darllen LLGC yn medru cael mynediad i'r archif gwefannau o gyfrifiaduron yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell.

Dalier sylw: Pan mae gwefan neu adnodd yn cael ei ddefnyddio trwy’r teclyn, mae mynediad yn cael ei gloi i un defnyddiwr ar y system.

Lle mae perchennog gwefan wedi caniatáu i'r Llyfrgell, mae mynediad ar gael i’r cyhoedd trwy wefan agored yr Archif Gwefannau.

Chwilio gwefannau wedi eu harchifo

Mae chwiliad testun llawn ar gael ar gyfer gwefannau wedi eu harchifo. Mae tab ar gyfer awgrymiadau chwilio yn rhoi cyfeirnod cyflym i gystrawen ymholiad.

Gallwch hidlo’r canlyniadau yn awtomatig drwy ddefnyddio termau wedi’u mynegeio, e.e. enw parth neu fformat.

Telerau defnyddio

Mae mwyafrif y gwefannau ar yr Archif Gwefannau o dan amodau hawlfraint.S

Mae’n rhaid i chi ddarllen a derbyn yr amodau hawlfraint ac amodau eiddo deallusol cyn y gallwch ddefnyddio’r adnodd mynediad i wefannau. Mae’r amodau yn cynnwys cyngor ar argraffu copïau o dudalennau’r we sydd wedi’u harchifo.

Dolenni perthnasol