Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae gan unrhyw un sydd â thocyn darllen Llyfrgell Genedlaethol Cymru fynediad ar ein safle i filiynau o gyhoeddiadau yn y DU ac Iwerddon.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn y deunydd hwn oherwydd deddfwriaeth adnau cyfreithiol. Mae hyn yn golygu nid yn unig eitemau printiedig, ond hefyd deunydd electronig a gwefannau parth y DU sydd wedi'u harchifo.
Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yr hawl i hawlio copi o bopeth a gyhoeddwyd yn y DU ac Iwerddon o dan delerau Legal Deposit Libraries Act 2003 (legislation.gov.uk). Ers 2013, mae’r hawl hon wedi’i hymestyn gan Legal Deposit Libraries (Non-Print) Regulations 2013 i’n galluogi i gasglu cyhoeddiadau electronig ac i gynaeafu cynnwys o’r we fyd-eang.
Ynghyd â deunydd printiedig megis llyfrau, papurau newydd a chyfnodolion, rydym hefyd yn gallu casglu cymysgedd o gynnwys electronig. Mae hyn yn cynnwys e-lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion, yn ogystal â gwefannau wedi'u harchifo ar archif gwe parth y DU.
Cynhwysir cyfryngau cymdeithasol, fel Twitter a Facebook, o dan reoliadau 2013, ac felly gall llyfrgelloedd adnau cyfreithiol gasglu’r cynnwys hwn.
Deunydd nad yw wedi’i gynnwys yn rheoliadau 2013 yw:
Mae mynediad yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth. Mae gan aelodau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru fynediad at ddeunydd adnau cyfreithiol yn ein hadeilad. Ni chewch fenthyg deunydd printiedig na chael mynediad i'r deunydd electronig trwy eich gliniadur eich hun ar safle'r Llyfrgell nac o gartref.
Mae deunydd printiedig ac electronig ar gael yn ein hystafell ddarllen yn unig. Gallwch hefyd edrych ar ddeunydd adnau cyfreithiol electronig yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Gallwch chwilio am ddeunydd adnau cyfreithiol trwy gatalog y Llyfrgell.
Nid oes cyfyngiad ar nifer yr eitemau electronig y gallwch gael mynediad atynt mewn diwrnod.
Dim ond un person ar y tro all weld eitem electronig, ac nid oes terfyn amser wedi'i osod (o fewn diwrnod) parthed pa mor hir y gallwch chi edrych ar eitem. Nid yw cyhoeddiadau electronig ar gael tan o leiaf saith diwrnod ar ôl iddynt gael eu hadneuo yn y Llyfrgell.
Mae gwefannau sydd wedi'u harchifo ar gael drwy borth Archifau Gwe y DU ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol drwy ein cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus. Lle mae perchennog gwefan wedi rhoi caniatâd, bydd mynediad hefyd ar gael ar eich gliniadur eich hun neu o'ch cartref, eich gwaith neu'ch man astudio.
Mae safleoedd yn cael eu harchifo yn flynyddol, gyda mynediad ar gael tua 12 mis ar ôl cynaeafu.
Caniateir copïo deunydd printiedig o fewn terfynau deddfwriaeth hawlfraint. Gallwch hefyd argraffu deunydd electronig.
Mae angen i unrhyw un sy'n edrych ar eitem electronig dderbyn y telerau ac amodau sy'n llywodraethu'r defnydd o'r deunydd, sy'n cynnwys rheoliadau hawlfraint mewn perthynas ag argraffu. Caiff argraffu ei fonitro i sicrhau nad oes unrhyw dorri rheolau hawlfraint.
Cewch gyngor pellach gan staff yr Ystafell Ddarllen ar gyfyngiadau copïo ac argraffu.
Nid yw rheoliadau adnau cyfreithiol yn caniatáu lawrlwytho neu ddefnyddio camerâu (gan gynnwys camerâu ffôn) i wneud copïau o ddeunydd adnau cyfreithiol electronig.
Am gyngor pellach, gallwch ymgynghori â staff yr Ystafell Ddarllen.