Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r casgliad mapiau yn cynnwys dros 1.5 miliwn o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau.
Dyma’r casgliad mwyaf o fapiau yng Nghymru, ac un o’r mwyaf ym Mhrydain. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau, o’r mapio electronig diweddaraf i fapiau a siartiau ar felwm o’r 16eg ganrif. Mae’r casgliad yn arbenigo mewn deunyddiau Cymreig ond mae ynddo hefyd nifer fawr o eitemau sy’n cynnwys gweddill y byd.
Mae’r mapiau cynharaf a oroesodd sy’n dangos Cymru yn fapiau cyffredinol o Ynysoedd Prydain neu Ewrop.
Casgliad o fapiau wedi eu digido sy'n dangos siroedd Cymru o ddiwedd yr 16eg ganrif ymlaen.
Detholiad o fapiau ystadau llawysgrifol sy'n perthyn i Gymru; yn amrywio mewn dyddiad o'r 16eg ganrif - 20fed ganrif.
Cynlluniau trefi sy'n fapiau ar raddfa fawr o ardaloedd adeiledig, sy’n darparu gwybodaeth fanwl am y tirwedd a'r adeiladau trefol.
Mae gennym gasgliad mawr o siartiau, y rhan fwyaf ohonynt yn siartiau Morlys modern a masnachol, ond mae yma hefyd siartiau hynafiaethol yn ogystal.
Roedd y degwm yn daliad a wnaed i gefnogi eglwys y plwyf a'r clerigwyr. Mae gennym gasgliad o fapiau degwm Cymru a'r rhestrau pennu cysylltiol.
Porwch trwy ein casgliad helaeth o fapiau'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys mapiau milwrol a anfilwrol.
Porwch drwy fap llawysgrif hardd Idris Mathias o ran isaf Dyffryn Teifi. Llun Hawlfraint Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
Detholiad o fapiau wedi'u digido yn dangos ffiniau gweinyddol yng Nghymru o'r 19eg ganrif.