Symud i'r prif gynnwys

Dewch i fyd y Mabinogion yn Llyfyr Gwyn Rhydderch, neu mentrwch i'r traeth ar noson olau leuad gydag un o smyglwyr Cymru. Troediwch i Versailles gyda David Lloyd George yn y Rhyfel Byd Cyntaf neu rhyfeddwch at y ffotograffau cynharaf o Gymru.

Europeana: Rise of Literacy

Europeana: Rise of Literacy

Porwch trwy gyfraniad y Llyfrgell i brosiect Rise of Literacy, Europeana, llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. O lawysgrifau i gyfrolau printiedig, cyfnodolion i bapurau newydd, darganfyddwch rhai o gasgliadau print y Llyfrgell.

Illingworth

Illingworth

Mae casgliad Illingworth yn cynnwys 4,563 o ddelweddau, ac yn rhoi golwg inni ar amrywiaeth eang o bynciau trwy lygaid un o gartwnwyr mwyaf adnabyddus Prydain yr ugeinfed ganrif.

David Lloyd George

David Lloyd George

Mae'r arddangosfa wedi ei chreu trwy nawdd caredig Cymru'n Cofio, er mwyn cyflwyno bywyd a gwaith David Lloyd George, yn arbennig ei rôl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llawysgrifau

Llawysgrifau

Porwch trwy rai o gasgliadau llawysgrifau anhygoel y Llyfrgell. Ymgollwch yn chwedlau'r Mabinogi, neu mentrwch i'r traeth gyda smyglwr ar noson olau leuad. Dywch am obeithion Owain Glyndŵr i Gymru neu teithiwch i'r Amerig gyda'r ymfudwyr Cymreig. Mae'r cyfan yn ein llawysgrifau.

Archifau

Archifau

Dysgwch yr anthem genedlaethol neu teithiwch yn ôl mewn amser i ddod i nabod David Lloyd George. Darganfyddwch y storïau tu ôl i'r milwyr Cymreig aeth i frwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf, neu teithiwch i Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell. Darganfyddwch ein archifau.

Deunydd Print

Deunydd Print

Ydych chi wedi gweld y llyfr cynharaf i gael ei argraffu yng Nghymru neu'r cyfieithiad llawn cyntaf o'r Beibl? Darganfyddwch pa anghenfil ymddangosodd ger traeth Pentywynyn yn 1604 neu dewch i nabod rai o unigolion nodedig Cymru. Mae ein casgliad print yn aros!

Darluniau

Darluniau

Mae ein casgliad celf yn cynnwys rhai o'r weithiau mwyaf eiconig Cymru. Darganfyddwch ddarluniau Turner o dirlun Cymru neu teithiwch o amgylch y wlad trwy weithiau dyfrliw John 'Warwick' Smith. Mae ein gwlad odidog a'i phobl yn dod yn fyw yn ein casgliad celf.

Mapiau

Mapiau

Cewch weld sut mae ein canfyddiad o Gymru wedi newid. O'r map hynaf o Gymru i diriogaethau ein cyndeidiau yn y mapiau degwm. Darganfyddwch sut mae ein trefi a'n dinasoedd wedi newid, a sut chwaraeodd Cymru ei rhan yn siapio'r byd. Mapiau yw ein porth i'r gorffennol.

Ffotograffau

Ffotograffau

Rhowch wyneb i'n gorffennol. O rai o'r ffotograffau cynharaf a dynnwyd yng Nghymru i'r ymdrech ryfel. O'n cyfnodau duaf i fywyd lleol, bydd ein ffotograffau yn dod â chi'n agosach at ein hanes, a phwy a wyr, efallai y byddwch chi'n nabod rhywun!

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Mae’r arddangosfa arlein hon yn dathlu Dylan y camelion gan ddefnyddio deunydd o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru.