Symud i'r prif gynnwys

Mae gennym dros 6 miliwn o lyfrau, dros 40,000 o lawysgrifau, dros 1.5 miliwn o fapiau ym mysg llawer iawn o bethau eraill. Rydym yn Lyfrgell Adnau Cyfreithiol sy’n golygu fod hawl gennym i gopi o bobl llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Ein prif faes casglu yw eitemau’n ymwneud â Chymru a’r gwledydd Celtaidd, ond nid yw ein casgliadau wedi eu cyfyngu i hyn. 

Chwilio’r Casgliadau

  • Y Prif Gatalog: Mae hwn yn chwilio ar draws casgliadau’r Llyfrgell

Mae’n rhaid defnyddio un o’r ddau gatalog yma er mwyn archebu deunydd i’w weld yn ein Hystafell Ddarllen. Cofiwch fod angen i chi ymaelodi â’r Llyfrgell cyn y gallwch archebu deunydd. Cewch fwy o wybodaeth am y broses ar ein tudalen Tocynnau Darllen.

Chwiliwch trwy'r casgliadau

Arddangosfeydd Digidol

Mae ein arddangosfeydd arlein yn cyflwyno trawsdoriad o eitemau o’n casgliadau. 

Dewch i fyd y Mabinogion yn Llyfyr Gwyn Rhydderch, neu mentrwch i'r traeth ar noson olau leuad gydag un o smyglwyr Cymru. Troediwch i Versailles gyda David Lloyd George yn y Rhyfel Byd Cyntaf neu ryfeddwch at y ffotograffau cynharaf o Gymru. Mae stori Cymru yn aros amdanoch. 

Mwynhewch ein harddangosfeydd digidol


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Rhaid cofrestru fel darllenydd er mwyn cael mynediad i'r Ystafell Ddarllen 

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn 

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig. 

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen