Symud i'r prif gynnwys

Llyfrau

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir y casgliad mwyaf o lyfrau yng Nghymru.

Dechreuwyd casglu llyfrau yn arbennig ar gyfer sefydlu Llyfrgell Genedlaethol i Gymru yn 1873. Cedwid y ‘Llyfrgell Gymreig’ yng Ngholeg Prifysgol Cymru a oedd newydd ei sefydlu yn Aberystwyth. Yn y cyfnod hwn hefyd y ffurfiwyd craidd casgliad llyfrau print Llyfrgell Genedlaethol Cymru sef casgliad Syr John Williams.

Dan Ddeddf Hawlfraint 1911, mae gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon gan y cyhoeddwr.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn prynu copïau o lyfrau o ddiddordeb Cymreig a Cheltaidd a gyhoeddir led y byd. Gwneir ymdrech hefyd i lenwi ‘bylchau’ yng nghasgliad y Llyfrgell, drwy brynu hen lyfrau nad ydynt eisoes yma.

Gellir gwneud cais am unrhyw eitem y dymunwch ei weld drwy ddefnyddio’r Prif Gatalog.

Cylchgronau a chyfnodolion

Mae daliadau’r Llyfrgell o gylchgronau a chyfnodolion yn helaeth. Maen nhw’n cynnwys:

  • cylchgronau academaidd
  • cylchgronau hamdden boblogaidd
  • cylchgronau plant
  • comics a ffansîns

Chwiliwch y Catalog am ddaliadau:

  • cylchgronau a gyhoeddwyd cyn 1986 ac yn parhau wedi hynny
  • cylchgronau a ddechreuodd ar ôl 1986

Mae cofnodion cylchgronau a ddaeth i ben cyn 1986 yn cael eu hychwanegu i’r catalog arlein. Holwch am help aelodau staff os na allwch ddod o hyd i deitl.

Gall hen deitlau fod ar gael hefyd mewn fformatau eraill megis microffis neu ficroffilm.

Mae nifer o deitlau newydd ar gael mewn fformat testun-llawn electronig a chwiliadwy ar ein tudalen Tanysgrifiadau ac Adnoddau Eraill.

Mae’r rhan fwyaf o deitlau cylchgronau yn y Llyfrgell wedi eu cyhoeddi ym Mhrydain. Ond mae llawer o deitlau eraill wedi cael eu hychwanegu trwy bwrcas, rhodd a chyfnewid ac yn ddiweddar trwy fformatau electronig.

Papurau newydd

Nid papurau newydd o Gymru yn unig sydd i’w gweld yn y Llyfrgell, ond ceir dewis eang o bapurau newydd o Brydain a thu hwnt yn ogystal.

Trwy dderbynion hawlfraint, a phrynu copïau o bapurau newydd ar feicroffilm, mae’r Llyfrgell wedi casglu nifer o deitlau dyddiol ac wythnosol o weddill y Deyrnas Unedig, gan danysgrifio i ddetholiad o deitlau o rannau eraill o’r byd yn ogystal.

Yn ogystal â phapurau o’r 19eg ganrif ymlaen, mae’r Llyfrgell wedi ymestyn ei chasgliadau drwy brynu llawer o deitlau a’r feicroffilm o’r gyfres Early English Newspapers, sy’n cynnwys papurau newydd o’r 17eg a’r 18fed ganrif.

Erbyn hyn mae’r Llyfrgell yn tanysgrifio i gronfeydd ac adnoddau newyddion a phapurau newydd electronig. Mae’r Times Digital Archive 1785-1985 yn enghraifft lle mae modd chwilio trwy rifynnau digidol llawn o’r Times (Llundain) gan ddefnyddio allweddair.

Gellir hefyd chwilio trwy NewsUK, sy’n cynnig newyddion cenedlaethol a rhanbarthol trwy gyfuno teitlau papurau newydd cyfredol poblogaidd Prydain mewn un gronfa ddata.

Newsplan

Rhaglen gynhwysfawr yw Newsplan sy’n anelu at feicroffilmio a chadw papurau newydd lleol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Drwy baratoi meicroffilm o'r papurau newydd gwreiddiol sydd o ansawdd uchel ac o safon gadwraethol, bydd modd diogelu'r negyddion meistr y ficroffilm pan fydd y papurau newydd gwreiddiol wedi dirywio.

Gellir defnyddio copïau o'r negyddion fel copïau darllen neu eu sganio i gynnig mynediad digidol arlein. Mae gan NEWSPLAN Cymru wefan sy’n cyflwyno gwybodaeth am waith Newsplan Cymru ac yn cynnig mynediad i gronfa ddata o bapurau newydd Cymreig sydd ar gael mewn llyfrgelloedd, naill ai ar ffurf papur neu ar feicroffilm.