Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
Fel sefydliad, mae gofyn i ni gydymffurfio gyda deddfwriaeth benodol, o gydraddoldeb ac amrywedd i reolaeth gwybodaeth a rhyddid gwybodaeth. Fe gewch yr holl wybodaeth am sut rydym ni'n cydymffurfio ar ein gwefan.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).
Mae gan y Llyfrgell Fwrdd o Ymddiriedolwyr sy’n llywodraethu drosti. Gallwch ddarllen cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd a gweld aelodaeth y Bwrdd ar ein gwefan. Cewch hefyd wybodaeth am is-bwyllgorau'r Bwrdd.
Rydym yn cyhoeddi copi o'n prif ddogfennaeth gorfforaethol ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau, cyfrifon, strategaethau a pholisiau. Mae'r dogfennau hyn yn cynnig darlun clir o sut mae'r Llyfrgell yn gweithio a'i blaenoriaethau dros y blynyddoedd nesaf.