Symud i'r prif gynnwys

O’r preswyliad cyntaf i globaleiddio’r 21ain ganrif, mae pobl wedi teithio dros dir a môr i wneud cartref i'w hunain, eu teuluoedd a’u disgynyddion yn yr hyn a elwir heddiw yn Gymru. Gyda’i gilydd, mae ein straeon a phrofiadau amrywiol fel unigolion a chymunedau wedi siapio hunaniaeth Cymru trwy’r canrifoedd, a bydd yn parhau i wneud hynny i'r dyfodol.

Ers rhy hir, fodd bynnag, mae profiadau byw pobl Du, Asiaidd, Hil-Gymysg ac Ethnig Lleiafrifol wedi’u tangynrychioli yn niwylliant a threftadaeth Cymru. Fel sefydliad cenedlaethol a sefydlwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru – ein byd-olwg, agweddau ac arferion yn ogystal â’n casgliadau – wedi'i siapio gan hanes Cymru fodern a’i rôl yn y byd. Mae gwladychu wedi rhoi Cymru yng nghanol systemau a greodd yr hiliaeth systemig a’r anghyfiawnder sy’n dal i fodoli yn ein cymdeithas heddiw.

Rydym yn ymroi i newid ein ffordd o weithio fel bod y rhagfarnau ac ymddygiadau hyn yn cael eu dad-ddysgu, ein bod yn cydnabod penderfyniadau a gweithredoedd y gorffennol , ac yn dod yn sefydliad sy’n weithredol wrth-hiliol. Rydym yn ymroi i ddod yn Llyfrgell Genedlaethol sy’n cofleidio a dathlu amrywiaeth Cymru ac sydd wir yn gynrychioladol o ran ein staff, ein casgliadau a’r unigolion a chymunedau rydym yn eu gwasanaethu.


Beth ydym ni’n ei wneud?

  • Rydyn ni wedi arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru sy’n hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o’r sefydliad.
  • Rydyn ni wedi cyfrannu i ddatblygiad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru – Cymru Wrth-hiliol – ac yn ymwymo i'w gefnogi.
  • Rydyn ni’n gweithio ar draws y sefydliad i gyflwyno newid yn y meysydd canlynol:
  1. Llywodraethiant ac Atebolrwydd: Cadarnhau a chyhoeddi ein hymrwymiad i gydraddoldeb hil, gan sicrhau atebolrwydd a thryloywder ynghylch ein gweithredu.
  2. Hyfforddiant a Datblygiad Staff: Cynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddi staff er mwyn gweithredu a gwreiddio newid ar draws y sefydliad.
  3. Recriwtio a Chynrychiolaeth: Cynyddu amrywiaeth ethnig ymhlith y gweithlu a’r timau sy’n arwain, a chynyddu cynrychiolaeth mewn cynllunio, dylunio, curadu a rolau sy’n gwneud penderfyniadau.
  4. Cydweithio Cymunedol a Thraws-Sefydliadol: Cryfhau cydweithio trawsadrannol, gan adnabod a gweithredu dulliau o weithio fydd yn cryfhau ein perthynas gyda chymunedau ethnig amrywiol.
  5. Datblygu a Disgrifio Casgliadau: Gwneud ein casgliadau, o ran eu disgrifio a’u dehongli, yn fwy cynrychioliadol a chynhwysol.
  6. Adolygu ac Ailddylunio’r Naratif: Llawn gydnabod, Fully recognising, hyrwyddo a darparu cyfrif cytbwys a dilys o'r gorffennol - un sy'n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol a thraweffaith gadarnhaol cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
  7. Cydnabod a Dathlu Amrywiaeth Ddiwylliannol ein Cymdeithas: Darparu deunyddiau dysgu, addysgol, dehongli a hyrwyddo sy'n cydnabod a dathlu cyfoeth ac amrywiaeth cymysgedd diwylliannol ein cymdeithas, annog ymgysylltu corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arfer ac egwyddorion gwrth-hiliol.

Er mwyn cyflawni’r newid hwn, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau amrywiol yng Nghymru i gynllunio, dylunio a chyflawni ein gweithgareddau, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r cysylltiadau hyn a sefydlu sianeli i gefnogi’r cydweithio hwn.

Os hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, rhannu eich sylwadau ac awgrymiadau, neu weithio gyda ni i gyflawni ein haddewidion, cysylltwch a ni trwy ein Gwasanaeth Ymholiadau os gwelwch yn dda.