Symud i'r prif gynnwys

Statws cyfreithiol

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).


Ariannu'r Llyfrgell

Derbyn y Llyfrgell yn flynyddol grant cymorth gan Lywodraeth Cymru. Yr arian hwn yw prif ffynhonell incwm y Llyfrgell.


Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Ers hanner olaf 2006 (ac yn sgil derbyn Siartr Atodol newydd gan y Frenhines) mae gan y Llyfrgell Fwrdd o Ymddiriedolwyr a elwir rhagllaw 'y Bwrdd'. Mae gan y Bwrdd 15 o aelodau. Penodir 8 o'r aelodau gan Lywodraeth Cymru a 7 gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae gan y Llyfrgell ei swyddogion ei hun a rhydd y Siartr yr hawl i'r Bwrdd i ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau iddynt hwy, ac eithrio'r gallu i wneud rheoliadau a phenodi a diswyddo'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd (mae'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn gyflogedig ac ef/hi yw Swyddog Cyfrifyddu'r Llyfrgell).

Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys tri Swyddog y Bwrdd, yn unol â Statudau Diwygiedig 2013. Y tri swyddog yw'r Llywydd, yr Is-lywydd, a'r Trysorydd. Rheolir a rheoleiddir busnes y Llyfrgell hefyd yn unol â Statudau Diwygiedig 2013 a'r Rheoliadau a drefnir gan y Bwrdd.

Aelodau'r Bwrdd

Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys y tri Swyddog (sef y Llywydd, yr Is-lywydd, a'r Trysorydd), yn unol â Statudau Diwygiedig 2013.

Yr aelodau presennol yw:

  • Ashok Ahir (Llywydd)
  • Andrew Evans (Is-Lywydd)
  • Gronw Percy (Trysorydd)
  • Quentin Howard
  • Susan Davies
  • David Hay
  • Janet Wademan
  • Lee Yale-Helms
  • Hannah Lindsay
  • John Trevor Allen
  • Andrew Cusworth
  • Dr. Mohini Gupta
  • Michael Gibbon, K.C.
  • Heledd Bebb

Cyfarfodydd y Bwrdd

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu sesiynau agored o gyfarfodydd y Bwrdd, a gofynnir iddynt roi gwybod trwy ebost i Glerc y Bwrdd 48 awr cyn y cyfarfod os ydynt am fynychu.

Ceir amlinelliad o bapurau cyfarfodydd y Bwrdd ar y dudalen Crynodeb o Bapurau Cyfarfodydd y Bwrdd.

Isod gwelir agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yn ôl blwyddyn. Mae'rBwrdd yn cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol fel arfer.  Gweler isod hefyd ddyddiadau cyfarfodydd 2024.

Cysylltwch â’n Gwasanaeth Ymholiadau i wneud cais am y dogfennau canlynol mewn fformatiau eraill hygyrch, os gwelwch yn dda.

Calendr o gyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgorau 2025

BWRDD YR YMDDIRIEDOLWYR (am 10.00)

Gwener 10 Ionawr

Gwener 7 Mawrth

Gwener 9 Mai

Iau a Gwener 10 a 11 Gorffennaf

Gwener 19 Medi

Gwener 21 Tachwedd

ARCHWILIO, RISG A CYDYMFFURFIAETH (am 10.00)

Mawrth 18 Chwefror

Mawrth 8 Ebrill

Mawrth 1 Gorffennaf

Mawrth 14 Hydref

CYLLID AC ADNODDAU (am 15.00)

Mawrth 11 Chwefror

Mawrth 10 Mehefin

Mawrth 30 Medi

PERFFORMIAD, ANSAWDD A LLYWODRAETHIANT (am 15.30)

Mawrth 25 Chwefror

Mawrth 24 Mehefin

Mawrth 4 Tachwedd