Symud i'r prif gynnwys

Trwy wneud hyn gallwn gynnig mynediad ehangach i'n casgliadau a chynnig cyfle i'w dehongli mewn ffyrdd newydd a chyffrous.


Casgliad y Werin

Mae gwefan Casgliad y Werin yn cynnig mynediad i dreftadaeth a hanes Cymru. Mae'n cynnwys cyfraniadau gan brif sefydliadau treftadaeth Cymru, yn cynnwys y Llyfrgell, a gallwch chithau rannu eich casgliadau ar y wefan er mwyn ei chyfoethogi. Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant i sganio eich deunydd er mwyn ei lwytho i'r wefan.

Dysgu mwy am wefan Casgliad y Werin


Cymru’n Cofio

Roedd rhaglen goffau’r Llyfrgell yn rhan allweddol o Raglen Cymru’n Cofio 1914 – 1918, Llywodraeth Cymru. Mae gan y Llyfrgell gyfoeth o gasgliadau’n ymwneud â chyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd ein rhaglen yn gyfuniad o ddigwyddiadau a chyflwyniad o’n casgliadau arlein.

Dysgu mwy am gyfraniad LlGC i Cymru’n Cofio