Symud i'r prif gynnwys

Adnau Cyfreithiol

O ganlyniad i Ddeddf Hawlfraint 1911 mae gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o gerddoriaeth newydd sy’n cael ei hargraffu ym Mhrydain. Mae’r casgliad felly yn cael ei gyfoethogi gan lif cyson o eitemau cerddorol printiedig.


Catalogau

Os na ddowch o hyd i’r wybodaeth yr ydych ei heisiau ar Gatalog y Llyfrgell, cofiwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau. Gan fod y casgliad yn un mawr, nid yw popeth wedi ei gatalogio.

Cedwir Catalog Cerddoriaeth Gymreig (hyd at 2000) yn yr Ystafell Ddarllen. Catalog cardiau yw hwn yn cynnwys Bywgraffiadur Cerddorol a mynegai Teitlau a Llinellau Cyntaf.


Pwrcasiadau

Nid yw pob eitem yn cyrraedd trwy adnau cyfreithiol. Rhaid i’r Llyfrgell brynu rhai categoriau e.e. hen gerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth Geltaidd. Ceisir hefyd adlewyrchu rôl y Llyfrgell fel canolfan ymchwil trwy brynu argraffiadau ysgolheigaidd o gerddoriaeth Ewropeaidd.


Rhoddion

Cyfoethogir y casgliad yn ddirfawr gan roddion gwerthfawr a chyffrous e.e. papurau a llawysgrifau William Mathias. Mae hefyd gennym bapurau Grace Williams, a fu’n ddisgybl i Vaughan Williams ac yn gyfaill i Benjamin Britten.

Enghraifft arall o rodd gwerthfawr yw archif Daniel Jones, hen gyfaill Dylan Thomas, sy’n cynnwys nid yn unig ei gyfansoddiadau cerddorol ond llythyrau a deunyddiau’n ymwneud â phynciau fel yr Undeb Sofietaidd a’r Dwyrain Canol.


Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Rhan o rôl Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yw diogelu ein hetifeddiaeth sain, ac mae ganddi drysorfa o filoedd o dapiau, recordiadau a chryno ddisgiau.

Derbynia’r Archif recordiadau modern cwmnïau fel Sain. Mae hefyd wedi adeiladu cronfa hanesyddol arbennig trwy wneud recordiadau prin o gerddoriaeth Gymreig oddi ar yr awyr. Cyfoethogwyd y casgliad hanesyddol hefyd drwy gymorth rhoddion fel casgliad John Davies o recordiadau 78 cynnar.


Y Drwm

Cynhelir perfformiadau byw o gerddoriaeth yn y Drwm, sef theatr fach gartrefol y Llyfrgell. Cadwch olwg ar dudalen ddigwyddiadau’r Llyfrgell am wybodaeth am berfformiadau.