Symud i'r prif gynnwys

Dyma enghreifftiau o’r trysorau llawysgrif sydd gennym:

  • llawysgrif gynnar sy’n cofnodi Gwasanaeth Gŵyl Ddewi yn Antiffonal Penpont
  • papurau Maria Jane Williams yr arloesydd cofnodi caneuon gwerin
  • casgliad papurau John Lloyd Williams sy’n fwynglawdd o ganeuon gwerin. Mae hefyd yn cynnwys llawysgrif John Thomas y ffidlwr sy’n ffynhonnell brin o gerddoriaeth gwerin Cymru yn y 18fed ganrif
  • papurau a chyfansoddiadau John Thomas (Pencerdd Gwalia) a fu’n delynor i’r Frenhines Victoria. Ef a fu’n bennaf gyfrifol am droi sylw’r Cymry oddi wrth y delyn deires at y delyn bedal a’i throi yn eicon cenedlaethol
  • casgliad o lawysgrifau cerddorion enwog e.e. hunangofiant Joseph Parry Ceir yma hefyd lawysgrifau cerddorion fel Daniel Jones, William Mathias, Grace Williams a David Lloyd y canwr
  • papurau sefydliadau cenedlaethol fel Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru
  • llawysgrif 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Gwrandewch ar y recordiad cynharaf (11 Mawrth 1899)