Symud i'r prif gynnwys
  • Mae gennym rai cyfrolau printiedig cynnar e.e. y gyfrol brintiedig gyntaf i gynnwys cerddoriaeth yn Gymraeg sef Llyfr y Psalmau, Edmwnd Prys (argraffiadau 1621, 1630 ac 1638).
  • Mae’r Llyfrgell yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig clasurol a ddaeth i fri rhyngwladol fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias.
  • Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnwys gweithiau poblogaidd gan gynnwys cerddoriaeth Catatonia, Manic Street Preachers a chaneuon artistiaid unigol fel Caryl Parry Jones a Huw Chiswell.
  • Ceir yma nifer o gofiannau’r sêr e.e Ivor Novello, Tom Jones, Charlotte Church, Aled Jones a Shirley Bassey.
  •   Mae Cymru yn enwog am ei chorau ac mae yma ddigonedd o weithiau corawl fel anthemau ac oratorïau gan gyfansoddwyr fel Joseph Parry a T Hopkin Evans.
  • Adlewyrchir ein traddodiad o ganu cynulleidfaol gan ein casgliad o lyfrau emynau a rhaglenni cymanfaoedd canu. Daw rhai ohonynt o leoedd pellennig fel Patagonia ac Awstralia.
  • Mae yma gyfoeth o enghreifftiau o’r gân Gymreig e.e. hen ffefrynnau fel ‘Arafa don’ ac ‘O na byddai’n haf o hyd’ a chaneuon modern cyfansoddwyr fel Dilys Elwyn Edwards, Gareth Glyn a Robat Arwyn.
  • Casglodd y Llyfrgell gyfresi o gylchgronau dylanwadol fel ‘Y Cerddor Cymreig’, ‘Cerddor y Cymry’, ‘Cronicl y Cerddor’ ac ‘Y Cerddor’.

Cyhoeddiadau Cymreig