Symud i'r prif gynnwys

Mae Tŷ Cerdd yn un o'r  prif sefydliadau celfyddydol preswyl sydd wedi eu lleoli yng Nhanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae'n hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i gerddorion amatur a phroffesiynol. Mae hefyd yn cefnogi llu o gymdeithasau cerddorol.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynorthwyo a chefnogi pobl ifanc sy’n ymwneud â’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn darparu tiwtoriaid cymunedol, offer a chyngor er mwyn rhoi’r cyfle i bobl gyfansoddi, recordio a pherfformio eu cerddoriaeth eu hunain.

Mae gan Gerddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC statws arbennig fel cerddorfa genedlaethol sydd hefyd yn darlledu perfformiadau. Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC sydd â pherthynas perfformio agos gyda’r Gerddorfa wedi datblygu i fod yn un o gorau cymysg mwyaf blaenllaw Prydain.

Mae'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer proffesiynau ym myd cerdd, theatr a meysydd cyfatebol eraill.

Sefydlwyd y corff Cyfansoddwyr Cymru er mwyn cynrychioli holl gyfansoddwyr Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth a chyngor am nifer o faterion e.e. comisiynu a chyfleusterau gwaith.

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera teithiol mwyaf prysur Ewrop. Ei nod yw cynhyrchu operâu o’r safon uchaf ac mae hefyd yn cyflawni gwaith cymunedol ac addysgol.

Mae IAMIC (International Association of Music Information Centres) yn rhwydwaith fyd-eang o sefydliadau di-elw sy'n gweithio i hyrwyddo a dogfennu cerddoriaeth ein cyfnod. Mae pob sefydliad sy'n aelod yn canolbwyntio ar ei wlad neu ei ardal ei hun. Mae IAMIC hefyd yn datblygu prosiectau cydweithiol ymhlith ei aelodau ac yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant proffesiynol.

Mae IAML (International Association of Music Libraries, Archives and Documentation Centres) yn annog a hyrwyddo gweithgareddau llyfrgelloedd, archifau a chanolfannau gogfennau cerddorol. Mae'n gwneud hynny ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.