Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r Llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i'r wasg a'r cyfryngau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu cwmnïau i ffilmio yn y Llyfrgell ond mae natur ein casgliadau yn golygu fod rhaid i ni roi sylw i ystyriaethau ynglŷn â chadwraeth, hawlfraint a diogelwch ac ni ellir sicrhau mynediad i bopeth.
Nodwch os gwelwch yn dda bod angen cyflwyno pob cais i ffilmio yn yr adeilad, gan gynnwys ffilmio casgliadau, o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad ffilmio.
Sut gall y Llyfrgell fod o ddefnydd i chi?
Gall aelod o'ch staff ymaelodi â'r Llyfrgell am ddim, a gwneud ymchwil ar ei liwt ei hunan yma.
I ffilmio deunydd o'n casgliadau llyfrau, ffotograffau, mapiau, cardiau post, llawysgrifau, posteri neu ddarluniau cysylltwch â'r Uned Farchnata ar post@llgc.org.uk neu 01970 632 871.
Gweler isod am restr brisiau.
Mae adeilad ysblennydd y Llyfrgell gyda'i olygfa fendigedig o dref Aberystwyth a Bae Ceredigion yn lleoliad ffilmio gwych. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfweliadau mewn awyrgylch urddasol ac ysgolheigaidd.
Codir £300 y dydd am ffilmio neu £60 yr awr. Mae'r pris hwn yn cynnwys y gwaith ymchwil o nôl deunydd sydd i gael ei ffilmio a phresenoldeb aelod o staff y Llyfrgell sydd yn gorfod bod wrth law am resymau diogelwch a chadwraethol. Rhaid rhoi o leiaf 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio lleoliad, ond disgwylir 10 niwrnod gwaith o rybudd cyn dyddiad ffilmio eitemau o'r casgliadau.
Codir £150 y dydd am ddefnyddio'r Llyfrgell fel lleoliad ffilmio heb ddefnyddio dim o gasgliadau'r Llyfrgell. Rhaid rhoi 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio.
Cynigir pecyn i gwmni sy'n defnyddio mwy na 10 delwedd ar ôl golygu.
Dylid cyfeirio ceisiadau ffilmio at Uned Farchnata y Llyfrgell ar post@llgc.org.uk neu 01970 632 871.