Symud i'r prif gynnwys

Cynnwys y casgliad darluniau

Derbynnir eitemau i’r casgliad drwy eu prynu mewn arwerthiannau, gan y cyhoedd, gan orielau neu yn uniongyrchol gan yr arlunwyr. Mae’r Llyfrgell hefyd yn derbyn darluniau fel rhoddion a chymynroddion.

Mae’r casgliad yn cynnwys delweddau mewn cyfryngau amrywiol, o beintiadau olew clasurol i gartwnau gwreiddiol ar gyfer papurau newydd, a bellach delweddau ar ffurf ddigidol.

Rhennir y casgliad yn sawl categori gwahanol, a gellir canfod  mwy o wybodaeth am rai o’r rhain ar y dudalen casgliad darluniau. Yn ogystal, mae’r dudalen dolenni darluniau allanol yn darparu cysylltiadau i adnoddau allanol.

Mynediad i’r casgliad

  • Deunydd a dderbyniwyd ers 1986

Mae pob llun sydd wedi ei dderbyn i’r Llyfrgell ers 1986 ar gael ar y Catalog.

  • Deunydd a dderbyniwyd cyn 1986

 Mae’r Llyfrgell yn weithgar yn trosglwyddo gwybodaeth o’r hen gatalogau i ffurf electronig. Nid yw popeth wedi ei drosglwyddo, a cheir mynediad i lawer o luniau gan ddefnyddio cardiau mynegai yn yr Ystafell Ddarllen.

Archebu eitemau

Gellir archebu eitemau o’r Catalog ac fe drosglwyddir y gwaith i’r darllenydd ar gyfer eu gweld yn yr Ystafell Ddarllen. Nid oes angen rhybudd o flaen llaw cyn dod i ddefnyddio’r Ystafell Ddarllen, ond os oes gan y darllenydd wybodaeth am eitem neu gasgliad arbennig y mae am ei weld, awgrymir eich bod yn llenwi ein ffurflen ymholiadau arlein o flaen llaw.

Dolenni perthnasol

Oriel Ddigidol