Symud i'r prif gynnwys

Ashok Ahir (Llywydd)

Magwyd Ashok yn Wolverhampton ac iaith ei aelwyd yno oedd Punjabi. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 1992 a gwnaeth ddiploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ddarlledu ym Mhrifysgol Westminster, Llundain. Dysgodd Gymraeg yn 2005.  Rhwng 1994 a 1998 bu'n ohebydd a chynhyrchydd ar BBC Wales . Symudodd i Lundain a gweithio ar prif raglenni newyddion y BBC, cyn symud yn  ôl i Gaerdydd yn 2002 i fod yn Bennaeth Gwleidyddol yn BBC Cymru. Rhwng 2012 a 2018 roedd yn gyfarwyddwr gyda chwmni cyfathrebu Mela. Yng Nghorffennaf 2018 fe’i benodwyd  yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Swyddfa Cymru, ac wedi hynny daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Mae bellach yn gweithio i Cymwysterau Cymru.  Yn Hydref 2016, fe'i benodwyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Fe’i etholwyd yn Lywydd Llys yr Eisteddfod a Cadeirydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod ym mis Awst 2019.

Andrew Evans (Is-lywydd)

Mae Andrew Evans yn ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn codi arian a datblygu busnes ar gyfer busnesau newydd, elusennau a busnesau dielw, yn enwedig yn y sector diwylliannol. Bu'n Gyfarwyddwr Datblygu Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl ac yn Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu yng nghanolfan gelfyddydol Bluecoat yn Lerpwl. Pan nad yw'n gweithio mae Andrew yn ddarllenwr brwd ac yn mwynhau gwneud llanast yn y gegin. Mae’n ei chael hi’n anodd cerdded heibio amgueddfa, oriel neu lyfrgell heb fynd i mewn ac mae wrth ei fodd yn rhedeg y strydoedd a’r bryniau o amgylch ei gartref yn Sir y Fflint.

Gronw Percy (Trysorydd)

Yn raddedig mewn economeg o Brifysgol Caerdydd, mae Gronw yn gyfrifydd siartredig gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn cynghori a chyflawni ystod eang o brosiectau. Mae Gronw yn brofiadol ym meysydd codi arian, cynllunio busnes, gwerthuso buddsoddi, negodi masnachol, PPP a mentrau strategol eraill.
Mae Gronw ar hyn o bryd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid i Orbis Education and Care UK, ond cyn hynny, roedd yn brif swyddog cyllid i Open Genius Ltd, gyda chyfrifoldeb dros gyllid, codi arian ac adrodd ar ddata gweithredol. Mae hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr datblygu cyllid i gwmni Castleoak, gyda chyfrifoldeb dros gyllid a chyllido, a threuliodd 10 mlynedd fel Cyfarwyddwyr Cysylltiol gyda PwC yng Nghaerdydd a Llundain, fel aelod allweddol o fusnes Llywodraeth ac Isadeiledd PwC yn arwain tîm Cymru, gyda chyfrifoldeb dros nifer o fandadau graddfa eang yn cynnwys allanoli, masnachfreintiau, partneriaethau strategol, codi arian, comisiynu’n seiliedig ar allbynnau ac ymgynghori strategol.
Mae Gronw’r aelod o Bwyllgor Archwilio Canolfan Milenwiwm Cymru, ac yn Ymgynghorydd Bwrdd i Drop Task, cwmni meddalwedd wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, a Right Now Digital, busnes rhaglenni ffôn clyfar sy’n ffocysu ar y sector chwaraeon a hamdden.

 

Quentin Howard

Mae Quentin yn beiriannydd darlledu, cyflwynydd radio arobryn â phrofiad helaeth o weithio yn y cyfryngau. Mae’n cael ei gydnabod fel y gyrrwr tu ôl i DAB yn y DU ac arweiniodd ar ddatblygu DAB dramor. Fel Cyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer grŵp radio mwyaf y wlad, bu’n rheoli allbwn 30 o orsafoedd radio ac yn gyfrifol am adeiladu Classic FM ble bu’n gyflwynydd. Gwnaeth foderneiddio sustemau teledu a radio’r Weinyddiaeth Amddiffyn, a sicrhau fod teledu yn cael ei ddarparu trwy’r we fyd eang a diwifr i’r lluoedd arfog oedd yn gweithio dramor. Creuodd gwasanaethau archif fideo digido ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae’n Ymddiriedolwr o’r Gronfa British Wireless for the Blind. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Susan Davies

Astudiodd Sue yn y Llyfrgell Genedlaethol fel myfyriwr israddedig ar gyfer gradd yn y Saesneg. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad hyd at lefel uwch yn y sector treftadaeth, gan arbenigo mewn dysgu, datblygu cynulleidfa, ymgysylltu cymunedol ac arddangosfeydd ar ôl gyrfa gychwynnol fel athrawes. Mae ei ymgynghoriaeth diwylliannol, sydd wedi ei leoli yn Sir Benfro, yn weithredol ers 2016.  Mae gyrfa Sue mewn amgueddfeydd wedi mynd â hi i Amgueddfeydd Tyne and Wear, Ymddiriedolaeth Harewood House, Amgueddfeydd ag Orielau Leeds. Mae ganddi MA mewn Astudiaethau Amgueddfa, a PGCE, mae'n ddysgwr Cymraeg brwd, yn Gymrawd Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli, wedi bod yn gynrychiolydd Cymdeithas Amgueddfeydd Cymru, ac ar hyn o bryd yn gynrychiolydd Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd Cymru.

David Hay

Mae David yn archifydd gyrfa, rheolwr cofnodion a gweithiwr treftadaeth proffesiynol gyda dros 35 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a busnes. Hyd nes iddo ymddeol arweiniodd Dreftadaeth ac Archifau BT, gan ddatblygu’r swyddogaeth yn archif fusnes flaenllaw a gydnabuwyd gan UNESCO fel rhan sylweddol o dreftadaeth ddiwylliannol y DU, ac un o’r ychydig archifau corfforaethol i gael statws Casgliad Dynodedig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Gwasanaeth Achrediad Archifau gan yr Archifau Cenedlaethol. Mae wedi gweithio gyda llawer o bartneriaid amgueddfeydd a phrifysgolion ar nifer o brosiectau treftadaeth, yn aml gyda chyllid allanol, ac mae ganddo brofiad o gynhyrchu incwm masnachol o gasgliadau archif. Mae David hefyd yn ymddiriedolwr gyfarwyddwr Archif Sainsbury.

Dr. Janet Wademan

Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, astudiodd Janet am BA mewn Mathemateg Pur ac yn dilyn ymchwil wreiddiol dyfarnwyd PhD mewn Theori Grŵp iddi. Mwynhaodd Janet yrfa ymchwil a datblygu gorfforaethol ym maes peirianneg systemau, rheoli rhaglenni, marchnata a chyfarwyddiaeth cais rhyngwladol cymwysiadau diogelwch-hanfodol. Ym 1995, sefydlodd ei phractis ymgynghorol yn arbenigo mewn technoleg ac arloesedd. Mae hi wedi bod yn gynghorydd i gonsortia corfforaethau rhyngwladol a arweiniodd at greu llawer o gannoedd o swyddi STEM. Roedd hi, rhwng 2006 a 2009, yn Aelod o'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd. Gwasanaethodd hefyd fel Aelod o Banel Cynghori Ymchwil Economaidd Prif Weinidog Cymru rhwng 2002 a 2012. Er 1998, mae Janet wedi cyfrannu at y lles cyffredin drwy ei swyddi anweithredol.

Hannah Lindsay

Cafodd Hannah ei geni a'i magu yn Newcastle Emlyn, de Ceredigion ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Astudiodd ar gyfer gradd israddedig mewn Hanes Modern a Gwyddor Gwleidyddol ym Mhrifysgol Birmingham. Ar ôl graddio yn 2012, aeth ymlaen i gwblhau Diploma Graddedig yn y Gyfraith, o Goleg y Gyfraith yn Llundain. Ar ôl dechrau ei gyrfa mewn marchnata a chyfathrebu yn Llundain, aeth gyrfa Hannah â hi i Beirut, cyn dychwelyd i Gymru lle mae hi wedi gweithio’n bennaf ym maes cyfathrebu yn y sector cyhoeddus. Yn ei rôl bresennol ar gyfer GIG Cymru, mae hi wedi gweithio ar ymgyrch ymateb a brechu pandemig COVID-19, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau trwy ymgysylltu â grwpiau na chlywir yn aml.

Lee Yale-Helms

Mae Lee yn gyfrifydd siartredig sy’n  gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau i Birmingham Children’s Trust. Cyn hynny, bu’n gweithio am 16 mlynedd fel Uwch Reolwr Gwasanaethau Ariannol a Chyfrifeg i Pricewaterhouse Coopers.

Mae Lee wedi gweithredu fel Is Gadeirydd ac Is Lywydd CIPFA Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru, Llywydd CIPFA Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru, ac Ymddiriedolwr CIPFA (cenedlaethol) ac fel Is Gadeirydd Pwyllgor Archwilio CIPFA.

Mae gan Lee brofiad o godi arian sy’n cynnwys cynorthwyo nifer o gyrff cyhoeddus i ddenu arian o’r Loteri a’r Llywodraeth. Mae Lee hefyd wedi codi arian yn wirfoddol ar gyfer grwpiau mae’n gysylltiedig â hwy ar lefel bersonol.

John Trevor Allen

Mae John yn wreddiol o Swydd Amwythig, a threuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn Aberystwyth, yn gyntaf fel myfyriwr ac yna fel llyfrgellydd dan hyfforddiant (ac yna fel myfyriwr eto) cyn symud i Swydd Rydychen i weithio gyda’r gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus yno. Ers hynny, mae wedi gweithio yn y GIG a llyfrgelloedd y Llywodraeth, ac mae wedi datblygu gyrfa hir mewn llywodraethiant elusennol, yn enwedig fel Ymddiriedolwr, Cadeirydd a Llywydd CILIP, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth. Tu hwnt i’r byd gwybodaeth, mae John yn lywodraethwr ysgol, Ymddiriedolwr o’r Grŵp Hawliau Teuluoedd, ac yn Gyfarwyddwr gwirfoddol  y sefydliad nid am elw, Three Rings CIC.

Andrew Cusworth

Mae Andrew Cusworth yn gweithio ym Mhrifysgol Rhydychen lle mae’n Rheolwr Rhaglen ac Uwch-hwylusydd Ymchwil menter Digital Scholarship at Oxford. Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt, enillodd ddoethuriaeth o’r Brifysgol Agored am ei waith ar gasgliadau digidol, cerddoriaeth draddodiadol, a hanes diwylliannol. Ar ôl hynny, bu’n gweithio mewn swyddi ysgoloriaeth a chasgliadau digidol yn Archifdy Ceredigion, Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerwysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llyfrgelloedd y Bodleian lle bu’n Gymrawd Ymchwil 1851 ac yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol a Chomisiwn 1851 ar archif y Tywysog Albert. Mae Andrew hefyd yn gyfansoddwr ac yn gerddor, ac mae’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth.

Dr. Mohini Gupta

Graddiodd Mohini o Brifysgol Delhi gyda gradd BA (Anrhydedd), ac yna dilyn MA mewn Astudiaethau Diwylliannol yn SOAS Prifysgol Llundain. Yn dilyn hynny, enillodd radd DPhil mewn Astudiaethau Asiaidd a Dwyrain Canol o Brifysgol Rhydychen. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cyd-Gynullydd i Addysg De Asia, ond bydd yn ymgymryd a rôl Cymrawd Ôl Ddoethuriaeth yn Ysgol Addysg Danaidd, Prifysgol Aarhaus ym mis Ionawr 2025. Mae Mohini hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Rhaglen Ysgolheigion Vedica i Ferched (New Delhi).

Mae Mohini yn gefnogwr brwd a lleisiol o ddiwylliant a’r iaith Gymraeg ar blatfformau cyhoeddus, ac wedi bod yn siaradwraig wadd mewn sawl ysgol a phrifysgol ar draws Cymru, and yn siaradwr Cymraeg rheolaidd ar wleidyddiaeth a diwylliant Indiaidd ar BBC Radio Cymru a S4C.

Mae Mohini wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ac adolygiadau,ac yn 2023, roedd yn gyd-olygydd The Hindu Bard: The Poetry of Dorothy Bonarjee, ac yn gyd-ddetholwraig Many Roads: Women’s Personal Stories of Courage and Displacement in Wales yn 2024; lansiwyd y ddwy gyfrol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Mohini yn medru siarad Saesneg, Hindi, Urdu, Sbaeneg a Chymraeg.

Michael Gibbon K.C.

Mae Michael yn bennaeth ar set o siambrau bargyfreithwyr yn Llundain, ac ar fainc Lincoln’s Inn. Roedd ei rieni yn dod o Forgannwg, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol gyda Gorllewin Cymru a Chanolbarth Cymru. Hanes Modern oedd pwnc ei astudiaethau israddedig, ac yna dilynodd radd meistr mewn Perthnasau Rhyngwladol. Roedd Michael yn ysgolhaig corawl tra yn y Brifysgol, ac mae’n parhau i ymddiddori mewn cerddoriaeth, yn enwedig canu. Ar ôl cyfnod byr ym myd cyllid, gwnaeth hyfforddi fel bargyfreithiwr. Dechreuodd ymarfer yn 1995 ac fe’i hapwyntiwyd yn QC (nawr KC) yn 2011.Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes canoloesol hwyr a hanes modern cynnar Canolbarth Cymru, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar y pynciau. Mae’n aelod o Gyngor Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ers 2016, ac yn gyn Llywydd y Montgomeryshire Society. Mae’n rhannu ei amser rhwng canol Llundain a chanolbarth Cymru, ble mae’i wraig yn rhannu cyfrifoldeb am redeg y fferm deuluol.

 

Heledd Bebb

Mae Heledd yn gyd-berchennog ac yn Gyfarwyddwr ar gwmni Ymchwil OB3, ymgynghoriaeth blaenllaw yng Nghymru, lle mae'n arwain gwasanaethau ymchwil, gwerthuso a chynghori sy'n llywio datblygiad polisi cyhoeddus ar draws sectorau amrywiol megis addysg, iechyd, diwylliant, ac economi.

Mae Heledd hefyd yn gyn uwch-ddarlithydd Busnes a Rheolaeth ac arweiniodd ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg arloesol yn y pwnc. Mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac roedd yn aelod ar nifer o fyrddau cynghori'r llywodraeth, fel ymgynghorydd polisi hamdden a diwylliant yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda BA (Anrh) mewn Cymraeg ac MSc (Econ) mewn Entrepreneuriaeth.