Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yn bresennol:
Aelodau'r Bwrdd:
Tîm Gweithredol:
Hefyd yn bresennol:
Ymddiheuriadau:
Cofnodion:
1.Materion Cyffredinol
1.1 Croeso’r Cadeirydd, sylwadau agoriadol ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawyd Nicky Guy, Philip Roberts a Mary Ellis o Lywodraeth Cymru a Nia Dafydd ar ran Undebau’r Llyfrgell.
1.2 Datgan buddiannau sy’n berthnasol i’r agenda
Nid oedd unrhyw ddatgan buddiannau yn berthnasol i’r eitemau ar yr agenda
1.3 Cofnodion cyfarfod 9 Mai 2025 a materion yn codi nad ydynt ar yr agenda
Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir o’r materion a drafodwyd. Nodwyd y dylai’r cofnodion Saesneg ddarllen “Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfiaeth”.
Bydd trafodaeth ar Ddealltwriaeth Artiffisial (AI) yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Medi o’r Bwrdd.
2.1 Adroddiad y Prif Weithredwr
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad gan nodi bod y rhan gyntaf yn diweddaru’r Bwrdd am rai pigion dethol wrth hyrwyddo cenhadaeth y Llyfrgell, a’r ail ran yn cyflwyno detholiad o ddiweddariadau o sawl rhan o’r Llyfrgell gan ddilyn penawdau’r Cynllun Strategol newydd.
Amlygwyd y meysydd canlynol i sylw’r Ymddiriedolwyr.
2.2 Cyflwyniad i Wefan y Llyfrgell
Ymunodd Dafydd Tudur, Pennaeth Ymgysylltu; Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata a Rhian James Lanagan, Pennaeth Mynediad a Chynnwys Digidol o Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu i roi cyflwyniad ar Wefan y Llyfrgell. Pwrpas y cyflwyniad oedd i’r Ymddiriedolwyr gael gwell dealltwriaeth o’r Wefan, ac i rannu’r siwrne o ddatblygu’r Wefan dros y misoedd nesaf. Rhannwyd y cyflwyniad efo’r Ymddiriedolwyr yn dilyn y cyfarfod.
Diolchwyd am y cyflwyniad.
3.1 Cynllun Rheoli Cadwraeth yr Adeilad (Donald Install Associates)
Rhannwyd y ddogfen efo’r Ymddiriedolwyr yn dilyn comisiynu Donald Insall Associates i ddiweddaru Cynllun Rheoli Cadwraeth yr Adeilad, bu i’r adroddiad gwreiddiol gael ei pharatoi yn 2019 ond ni chafodd ei fabwysiadau yn ffurfiol, felly mae gwaith diweddaru sylweddol wedi digwydd. Mae’r adroddiad yn sefydlu dealltwriaeth gytunedig o arwyddocâd treftadaeth adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i leoliad, gan roi esboniad o sut mae gwahanol ardaloedd ac elfennau yn gwneud cyfraniad mwy neu lai at yr arwyddocâd hwn, gyda gwahanol lefelau o sensitifrwydd, a chynnig gwahanol lefelau o gyfle ar gyfer newid neu wella. Set o egwyddorion sydd yma ar sut i reoli’r adeilad, gan nodi bod rhannau o’r adeilad yn bwysicach na’i gilydd. Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y gerddi a’r heol tuag at y Llyfrgell. Mae’r cynllun yn un 5 mlynedd ac mi fyddwn yn adolygu ar ddiwedd y cyfnod.
Cymeradwywyd y Cynllun a’r egwyddorion.
3.2 Cynllun Gweithredu a phrif dargedau 2025-2026
Rhannwyd y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2025-2026 sy’n adlewyrchu gweithgareddau allweddol fesul cyfarwyddiaeth sy’n cyd-fynd ac amcanion strategol y Llyfrgell. Cefnogir pob maes blaenoriaeth gan gerrig milltir i fesur cyflawniad ac effaith. Bydd perfformiad yn erbyn y cynllun gweithredol yn cael ei fonitro’n chwarterol gan y Tîm Gweithredol a hefyd Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod monitro chwarterol.
Bydd y canlyniadau yn erbyn y cynllun yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant yn rheolaidd a bydd canlyniadau blynyddol yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd.
Nododd sawl un o’r Ymddiriedolwyr y byddent am weld cynllun efo set lawn o dargedau sy’n fesuradwy. Nododd Janet Wademan bod y Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llwyodraethiant wedi cymeradwyo’r cynllun ond y bydd yn datblygu dros amser.
Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredol a chytunwyd i baratoi set lawn o dargedau mesuradwy i’r cyfarfod nesaf.
3.3 Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2024-2025
Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n dilyn strwythur y safonau sydd wedi ei gosod ar y Llyfrgell o ran cydymffurfiaeth. Nodwyd mai’r blaenoriaethau ar gyfer 2025-26 fydd i:
Hyrwyddo’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg
Nodwyd bod yr adroddiad yn dangos bod angen cryfhau hyder y staff mewn sgiliau ysgrifennu Cymraeg a bydd hyn yn cael blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Nodwyd nad oes gan y Llyfrgell Swyddog Iaith llawn amser ond gellid ystyried Pencampwr/wyr yr Iaith Gymraeg.
Cymeradwywyd yr adroddiad.
3.4 Adroddiad Uwchraddiad Seiberddiogelwch
Cyflwynwyd adroddiad diweddariad ar Seiberddiogelwch o fewn y Llyfrgell. Gofynnwyd a oedd y Llyfrgell yn meincnodi seiber efo sefydliadau eraill. Nodwyd bod y rhaglen Cyberessentials+ yn allweddol ac y byddwn yn arfyddio efo CymruSoc yn ystod yr wythnosau nesaf.
Adroddwyd bod y Llyfrgell yn dal i weld botnet mawr yn bennaf o Frasil yn cael ei ddefnyddio i grafu cynnwys yn ymosodol o archifau.llyfrgell.Cymru ein catalog archifau ar-lein.
Nodwyd hefyd y byddwn yn ail edrych ar y gofrestr risg wedi inni ymuno efo CymruSoc. Cadarnhawyd bod mesurau diogelwch yn ei lle i’n hamddiffyn o’r cwmwl, gyda Windows 10 yn dod i ddiwedd oes bydd gwaith o rolio PC’s newydd i’r staff yn flaenoriaeth a fydd yn gweithredu ar Windows 11.
3.5 Partneriaeth Cais Dinas Llên UNESCO – Memorandwm o Ddealltwriaeth
Mae’r Llyfrgell yn aelod allweddol o’r Bartneriaeth sydd wedi datblygu’r cais i ennill statws Dinas Llên UNESCO. Ers cyflwyno’r cais i UNESCO yn Ionawr 2025 mae’r Bartneriaeth sy’n arwain y cais yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo Memorandwm o Ddealltwriaeth. Mae ymrwymo i’r Memorandwm yn cael ei weld yn gam angenrheidiol. Nid oes effaith ar gyllideb y Llyfrgell eleni ac fe gefnogir unrhyw weithgareddau perthnasol o gyllidebau presennol yn 2025-26. Mae tîm cais ac aelodau’r Bartneriaeth yn archwilio ffynonellau cyllid pe bai’r cais yn llwyddo. Disgwylir canlyniad y broses ymgeisio cyn diwedd Hydref 2025.
Cymeradwywyd i ymrwymo i’r Memorandwm o Ddealltwriaeth.
3.6 Calendr Cyfarfodydd y Bwrdd 2026
Cymeradwywyd y Calendr ar gyfer 2026 gydag un newid i nodi y bydd cyfarfod y Bwrdd Ymddiriedolwyr mis Mawrth 2026 yn gyfarfod 2 ddiwrnod, 5/6 Mawrth 2026 gan gynnal y cyfarfod yn Ne Cymru.
Cytunwyd i gylchredeg y Calendr efo’r dyddiadau diwygiedig.
4.1 Adroddiadau Ariannol
4.1.1. Cyfrifon Rheoli Mai 2025
Cyflwynwyd y Cyfrifon Rheoli hyd at ddiwedd Mai 2025 gan Mererid Boswell. Nododd bod y perfformiad yn well na’r disgwyl gan fod cyflogau o dan darged, ond bod goramser y Porthorion yn uwch oherwydd y Gwyliau Banc, ond, bydd y sefyllfa yn newid o fis i fis. Hyd yma yn y flwyddyn adrodd ychydig o wariant cyfalaf sydd wedi bod. Mae’r gwariant ar y Grant Pwrcasu wedi bod yn drwm iawn yn ystod y chwarter cyntaf.
Cymeradwywyd y cyfrifon.
4.1.2 Cyfrifon drafft terfynol 2024-25 gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol
Cafwyd cyflwyniad i gyfrifon 2024-25 gan Mererid Boswell. Rhannwyd y cyflwyniad efo’r Ymddiriedolwyr yn dilyn y cyfarfod.
Cyflwynwyd y Cyfrifon drafft terfynol 2024-25 gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol i’r Ymddiriedolwyr cyn i Archwilio Cymru gychwyn yr archwiliad yn yr Hydref. Dylid anfon unrhyw newidiadau at sylw Mererid Boswell mor fuan â phosibl.
4.1.3 Diweddariad Cynllun Pensiwn
Cafwyd adroddiad llafar gan Mererid Boswell. Nododd nad oedd buddsoddiadau’r cynllun wedi perfformio yn dda o gwbl oherwydd perfformiad y farchnad a bod y prisiad actiwaraidd ar ddiwedd Mawrth 2025 yn dangos diffyg o £5.7m. Mae’r penderfyniad yn un dadleuol iawn, ond, yn anffodus oherwydd y perfformiad gwael a’r diffyg bydd rhaid mynd ati i ymgynghori ar newid y cynllun ym mis Medi. Bydd y broses ymgynghori yn digwydd drwy’r Bartneriaeth Gymdeithasol ac mi fyddwn yn gweithio gyda’r Undebau.
4.1.4 Llythyr Ymholiadau Archwilio 2024-2025
Cyflwynodd Mererid Boswell y Llythyr Ymholiadau Archwilio. Darperir y cwestiynau gan Archwilio Cymru ac mae’r Llyfrgell wedi llunio ymatebion ar gyfer 2024-25, o fewn y ddogfen hefyd mae ymatebion 2023-24. Mae’r tablau o fewn y ddogfen yn gofyn yn ffurfiol am yr ystyriaethau a dealltwriaeth ar nifer o feysydd llywodraethu, sy’n effeithio ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol. Bydd yr ymatebion yn llywio Archwilio Cymru ynghylch dealltwriaeth o brosesau busnes y Llyfrgell ac yn cefnogi eu gwaith wrth ddarparu barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2024-25.
Gan na fi modd i drafod cynnwys y Llythyr Ymholiadau Archwilio yn y Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfiaeth rhannwyd y llythyr hefyd efo’r aelodau annibynnol, Huw Lloyd Jones a Bruce Roberts a oedd wedi cyflwyno ei sylwadau
Cymeradwywyd y Llythyr Ymholiadau Archwilio ar gyfer 2024-25.
4.2 – Cydymffurfiaeth a Risg
4.2.1 Cofrestr Risg Corfforaethol
Cyflwynwyd y Gofrestr gan Mererid Boswell. Nododd nad oedd llawer o newidiadau gan iddo gael ei ddiweddaru i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mai. Adroddodd bod Seiber yn dal yn uchel ar y gofrestr ond bod y themâu o ran cynaliadwyedd ariannol, asbestos, lles a datblygu’r gweithlu a llywodraethu wedi gostwng. Awgrymwyd y gellid rhifo’r gofrestr, newid enw’r amcan strategol i ddarllen “amcan strategol/galluogwr” a nodi pryd mae’r camau gweithredol yn digwydd e.e. cynnwys dyddiadau.
Cymeradwywyd y Gofrestr Risg.
4.2.2. Adroddiad Blynyddol Archwilio, Risg a Sicrwydd 2024-25
Rhannwyd yr adroddiad a oedd eisoes wedi ei thrafod yn y Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfiaeth. Dyma flwyddyn gyntaf RSM fel archwilwyr mewnol y Llyfrgell ac roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod gan y sefydliad fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol. Fodd bynnag, mae eu gwaith wedi nodi bod gwelliannau pellach i’r fframwaith rheoli risg , llywodraethu a rheolaeth fewnol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddigonol ac yn effeithiol.
Nodwyd cynnwys yr adroddiad.
4.2.3 Ymateb Adolygiad Argymelliadau CIPFA
Rhannwyd yr adroddiad er gwybodaeth. Mae’r argymelliadau wedi deillio o adroddiad CIPFA a’r gynaliadwyedd ariannol y Llyfrgell, mae’r adroddiad a gyflwynir heddiw yn adolygu’r argymhellion hynny ac yn dangos pa gamau sydd wedi’u cymryd gan y Llyfrgell i weithredu ar yr argymhellion. Cyflwynir yr adroddiad i’r Bwrdd er gwybodaeth ac mi fydd hi’n cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio Ariannol nesaf ar gyfer ei chymeradwyo yn derfynol.
Nodwyd cynnwys yr adroddiad.
5.1 Cofnodion drafft Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau – 10 Mehefin 2025
Rhannwyd y cofnodion er gwybodaeth.
5.2 Cofnodion drafft Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant -24 Mehefin 2025
Rhannwyd y cofnodion er gwybodaeth.
Adran 6 – Unrhyw fater arall
6.1 Defnydd o Sêl y Llyfrgell
Cofnodwyd bod Sêl y Llyfrgell wedi ei defnyddio ar gyfer Les Canolfannau Clip Sir Benfro, Rhuthun, Merthyr, Y Drenewydd ac Ynys Môn.
6.2 Cyfarfod nesaf – 19 Medi 2025
Bydd y cyfarfod nesaf yn un wyneb i wyneb yn Aberystwyth gyda hyfforddiant Academi Wales: Healthy Boards yn y bore a chyfarfod y Bwrdd yn y prynhawn
6.3 Gweithgareddau’r Haf
Cytunodd Rhian Gibson i rannu gwybodaeth am weithgareddau’r Haf gyda’r Bwrdd.
Diwedd.
PWYNTIAU I'W GWEITHREDU / MATERION ANGEN SYLW PELLACH
| Gweithred | Cyfrifoldeb | Erbyn | Statws |
| Trafodaeth ar Ddealltwriaeth Artiffisial (AI) yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Medi o’r Bwrdd. | Rhian G | 19/9/25 | ✓ |
| Cynllun Gweithredol - paratoi set llawn o dargedau mesuradwy i’r cyfarfod nesaf. | TG | 19/9/25 | ✓ |
| Calendr Cyfarfodydd Y Bwrdd 2026 – cylchredeg copi diwygiedig yn dangos y cynhelir cyfarfod deuddydd i ffwrdd ym Mawrth 2026. | Annwen I | 19/9/25 | ✓ |
| Cyfrifon drafft terfynol 2024-25 – sylwadau at Mererid Boswell. | Pawb | Mor fuan â phosibl | ✓ |
| Cofrestr Risg Corfforaethol – ychwanegu at y penawdau. Mererid Boswell | Mererid Boswell | 19/9/25 | ✓ |