Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'r Pwyllgor Cynllunio Ariannol yn un o bwyllgorau sefydlog Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried a thrafod y prif faterion ariannol, yn arbennig portffolio buddsoddiadau’r Llyfrgell a’r defnydd o gronfeydd preifat y Llyfrgell, ac i wneud argymhellion i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Mae Rhian yn byw yn Wrecsam, ac yn medru’r Gymraeg. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle’r enillodd radd BScEcon Anrhydedd Cyfun mewn Economeg a’r Gyfraith. Mae’n aelod o CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) ac yn gweithio fel Partner Busnes Cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae ei gwaith Gwirfoddol yn cynnwys bod yn Llywydd Rhanbarth Cymru CIPFA (2017-2019) ac yn Gynrychiolydd y Rhanbarthau ar Fwrdd Myfyrwyr ac Aelodau CIPFA o 2019.