Symud i'r prif gynnwys

Prif bwyllgor sefydlog y Bwrdd yw’r Pwyllgor Archwilio sy’n cynnwys rhai o aelodau’r Bwrdd a dau aelod annibynnol allanol. Mae’n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y pwyllgor yn derbyn adroddiadau am amrywiaeth eang o agweddau o waith y Llyfrgell gan yr Archwilwyr Mewnol (Gwasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru) a'r Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru). Rhoddir adroddiad am bob pwyllgor i’r cyfarfod Bwrdd sy’n dilyn.

Aelodau

Janet Wademan (Cadeirydd)

Gronw Percy (Trysorydd)

 

Huw Lloyd Jones (Aelod Annibynnol)

Mae Huw yn rhugl yn y Gymraeg ac wedi ymddeol yn ddiweddar. Rhwng 1978 a 1990 bu'n dysgu Mathemateg ac Astudiaethau Cyfrifiadurol yn ysgolion uwchradd yn Croydon, Bromley a Chaergybi. Rhwng 1990 – 2002 bu’n arolygydd addysg a hyfforddiant EM gydag Estyn. Rhwng 2002 a 2005 bu'n aelod o dîm arolygu'r AALl yn y Comisiwn Archwilio, gan gyfrannu at dimau arolygu dan arweiniad Estyn ac Ofsted, gan edrych yn bennaf ar y defnydd o adnoddau gan gynghorau wrth ddarparu gwasanaethau addysg. Rhwng 2005 a 2015 roedd yn rheolwr tîm llywodraeth leol yn Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y rôl yn cynnwys arwain rôl Swyddfa Archwilio Cymru yn Ynys Môn yn ystod ac yn syth ar ôl ymyrraeth LlC. Rhwng 2015 a 2021 roedd yn rheolwr gyda’r tîm Astudiaethau Ymchwiliol yn Archwilio Cymru, lle bu’n arwain timau yn cynhyrchu adroddiadau archwilio mewn ystod o gyd-destunau sector cyhoeddus.

Andrew Evans (Is-lywydd)

Mae Andrew Evans yn ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn codi arian a datblygu busnes ar gyfer busnesau newydd, elusennau a busnesau dielw, yn enwedig yn y sector diwylliannol. Bu'n Gyfarwyddwr Datblygu Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl ac yn Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu yng nghanolfan gelfyddydol Bluecoat yn Lerpwl. Pan nad yw'n gweithio mae Andrew yn ddarllenwr brwd ac yn mwynhau gwneud llanast yn y gegin. Mae’n ei chael hi’n anodd cerdded heibio amgueddfa, oriel neu lyfrgell heb fynd i mewn ac mae wrth ei fodd yn rhedeg y strydoedd a’r bryniau o amgylch ei gartref yn Sir y Fflint.

John Trevor Allen

Mae John yn wreddiol o Swydd Amwythig, a threuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn Aberystwyth, yn gyntaf fel myfyriwr ac yna fel llyfrgellydd dan hyfforddiant (ac yna fel myfyriwr eto) cyn symud i Swydd Rydychen i weithio gyda’r gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus yno. Ers hynny, mae wedi gweithio yn y GIG a llyfrgelloedd y Llywodraeth, ac mae wedi datblygu gyrfa hir mewn llywodraethiant elusennol, yn enwedig fel Ymddiriedolwr, Cadeirydd a Llywydd CILIP, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth. Tu hwnt i’r byd gwybodaeth, mae John yn lywodraethwr ysgol, Ymddiriedolwr o’r Grŵp Hawliau Teuluoedd, ac yn Gyfarwyddwr gwirfoddol  y sefydliad nid am elw, Three Rings CIC.

Andrew Cusworth

Mae Andrew Cusworth yn gweithio ym Mhrifysgol Rhydychen lle mae’n Rheolwr Rhaglen ac Uwch-hwylusydd Ymchwil menter Digital Scholarship at Oxford. Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt, enillodd ddoethuriaeth o’r Brifysgol Agored am ei waith ar gasgliadau digidol, cerddoriaeth draddodiadol, a hanes diwylliannol. Ar ôl hynny, bu’n gweithio mewn swyddi ysgoloriaeth a chasgliadau digidol yn Archifdy Ceredigion, Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerwysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llyfrgelloedd y Bodleian lle bu’n Gymrawd Ymchwil 1851 ac yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol a Chomisiwn 1851 ar archif y Tywysog Albert. Mae Andrew hefyd yn gyfansoddwr ac yn gerddor, ac mae’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth.