Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yn bresennol:
Aelodau'r Bwrdd:
Tim Gweithredol:
Hefyd yn bresennol:
Cofnodion:
Ymddiheurio:
1. Materion Cyffredinol
1.1 Croeso’r Cadeirydd, sylwadau agoriadol ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawyd Nicky Guy o Lywodraeth Cymru a Sion England ac Ellie King ar ran Undebau’r Llyfrgell.
1.2 Datgan buddiannau sy’n berthnasol i’r agenda
Datganwyd diddordeb i bwynt 4.1 gan Rhodri Llwyd Morgan fel cyn aelod o staff Prifysgol Aberystwyth a Mererid Boswell gan fod ei phriod yn aelod presennol o staff y Brifysgol. Datganwyd diddordeb gan yr holl staff oedd yn bresennol i bwynt 4.2 sef uwchraddiad ar yr Ymgynghoriad Pensiwn.
1.3 Cofnodion cyfarfod 9 Ionawr 2026 a materion yn codi nad ydynt ar yr agenda
Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir o’r materion a drafodwyd, gyda rhai mân newidiadau i’r fersiwn Saesneg.
2.1 Adroddiad y Prif Weithredwr
Cyflwynodd Rhodri Llwyd Morgan ei adroddiad gan nodi’r pwyntiau canlynol:
Nododd Janet Wademan y dylid diolch i’r Cyfeilion yn ffurfiol am ei gwaith ers 1960 ac y byddai’n edrych ymlaen at glywed sut y bydd y Llyfrgell yn adeiladu ar y gwaith hwn. Nododd Andrew Prescott bod y Llyfrgell Brydeinig yn cynnig “Cynllun Aelodaeth” ac y gallai’r Llyfrgell ystyried hyn i’r dyfodol.
Cadarnhaodd Rhian Gibson y byddai’r Llyfrgell yn cynnal Arddangosfa ar Hanes Aberfan yn ystod yr Hydref fel rhan o brosiect sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Adroddodd hefyd bod y Llyfrgell yn gwneud gwaith ymgysylltu gyda Ysgolion a Chymunedau yn y cymoedd ar hyn o bryd o dan y testun Cynefin a Pherthyn.
Nodwyd hefyd bod llawer o sefydliadau am gydweithio efo’r Llyfrgell a’i bod yn anodd i gynnal partneriaeth gyda pawb. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol a byddwn yn gwneud gwaith gyda Theatr Bara Caws i ddathlu 50 mlynedd o’i sefydlu.
3.1 Cofrestr Risg Corfforaethol
Cyflwynwyd y gofrestr risg gan Mererid Boswell a oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â’r prif risgiau sydd yn wynebu’r Llyfrgell, a sut maent yn cael eu rheoli.
Gofynnodd Jo Williams sut y mae ein harchwaeth risg yn cael ei gymhwyso i risg 2 -“fforddiadwyedd cynllun pensiwn cyflogwyr”, a dylid cynnwys cynllun adfer o fewn y risgiau.
Nododd Mererid fod yna gofrestr risg penodol i’r Cynllun Pensiwn ar wahân i’r un Corfforaethol. Nododd Mererid ei bod hi’n cytuno bod yna waith pellach i’w wneud ar ein parodrwydd i dderbyn risg ac y byddai hyn yn drafodaeth bellach o fewn y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd gyda'r aelod annibynnol newydd Angela Williams.
Adroddwyd bod y gwaith ar Fedora 6 yn orffenedig a’r risg wedi lleihau.
Gan fod proffil y Llyfrgell yn codi a’n bod yn partneru gyda gwahanol sefydliadau, nodwyd bod pwysigrwydd mesur y gwaith i gyd-fynd a Strategaeth y Llyfrgell a’r Strategaeth Ymgysylltu.
Cytunwyd y byddai holiadur yn cael ei gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn gofyn am ei barn o ran archwaeth risg, ac angen edrych a oes yna ddatganiad archwaeth risg yn bodoli eisoes.
Cymeradwywyd y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Materion Strategol
4.1 Uwchraddiad ail-safle: Achos Busnes y Rhaglen
Roedd nifer o ddogfennau perthnasol wedi ei rhannu yn y sianel Teams i’r Ymddiriedolwyr cyn y cyfarfod.
Adroddwyd bod yr Adolygiad Porth Cam 2 wedi cymryd lle rhwng 28 - 30 Ionawr 2026. Cafwyd adroddiad clodwiw iawn gwyrdd/ambr, a oedd yn dangos bod y gwaith papur yn ei le, a’r cynlluniau yn datblygu’n dda ac o ganlyniad dim ond 3 argymhelliad a nodwyd.
4.2 Ymgynghoriad Cynllun Pensiwn
Adroddodd Rhodri Llwyd Morgan bod ymgynghori a thrafodaethau manwl a heriol wedi cymryd lle ers Hydref 2025 ar y newidiadau i’r Cynllun Pensiwn. Mae pryder am les y staff wedi ei amlygu inni yn ystod y cyfnod ymgynghori ac mae’r Llyfrgell wedi cyfathrebu drwy’r Undebau, cynnal sesiynau gwybodaeth ac annog sgyrsiau efo’r rheolwyr llinell ar undebau llafur trwy gydol yr ymgynghoriad i sicrhau lles y staff.
Yng nghyfarfod y Bwrdd 9 Ionawr 2026 cyflwynwyd mesurau i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a oedd yn lleihau'r cynnig gwreiddiol yn dilyn trafodaethau ffurfiol efo’r Undebau, barn y staff, tystiolaeth a’r sylwadau a dderbyniwyd.
Mae’r Llyfrgell wedi cytuno gyda’r Undebau i edrych ymhellach pe bai unrhyw ostyngiad mewn costau i’r Llyfrgell yn y dyfodol ar y pwynt prisio. Byddai gostyngiad yn cael ei adlewyrchu mewn gostyngiad canrannol cyfatebol mewn cyfraniadau aelodau, gyda’r nod terfynol o gael gwared ar y cyfraniadau ychwanegol.
Yn dilyn trafodaeth fanwl gyda’r Undebau mae’r canlyniad yn glir bod yn rhaid edrych ar gynllun pensiwn arall i’r dyfodol.
Derbyniwyd llythyr gan Undebau Llafur Prospect a PCS dyddiedig 4ydd Mawrth 2026 i sylw’r Ymddiriedolwyr yn gofyn am ystyriaeth i 4 pwynt penodol. Mae’r 4 pwynt hyn wedi derbyn ystyriaeth fanwl ac yn anffodus nid oes modd cynnig unrhyw symudiad ar y pwyntiau hyn. Nododd y Llywydd y byddai’n cydnabod ac ymateb i’r llythyr.
Ar sail y drafodaeth a’r papur a gyflwynwyd i’r Ymddiriedolwyr, cymeradwywyd y newidiadau i’r Cynllun Pensiwn. Y camau nesaf fydd adrodd i Fwrdd Pensiwn y Llyfrgell ac yna derbyn caniatâd Llywodraeth Cymru i gymeradwyo’r newidiadau a ddaw yn weithredol o’r 1af Ebrill 2027.
4.3 Drafft Cynllun Gweithredol 2026-2027
Adroddwyd bod drafft blaenorol o’r Cynllun Gweithredol wedi ei drafod yn y Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant ac yn dilyn trafodaeth rhwng Janet Wademan a Mererid Boswell bod gwaith pellach ac adrannau ychwanegol wedi ei hychwanegu i’r ddogfen. Nodwyd bod y dyluniad a’r cyflwyniad llawer gwell erbyn hyn. Nodwyd y pwyntiau canlynol:
Nododd Mererid Boswell y bydd yn rhaid blaenoriaethau yn ôl yr adnoddau sydd ar gael. O ran cyllideb gellir gwneud ceisiadau am gyllid allanol a chyllid prosiectau ac mae’r Tîm Arwain wedi cael y dasg o edrych ar bosibiliadau a ffynonellau ariannol yn barod.
O ran gweithio’n drawsadrannol, mae tipyn o waith i’w wneud. Mae’r Tîm Gweithredol a’r Tîm Arwain yn allwedd i wella’r cydweithio trawsadrannol ac mae’r staff allweddol yn ymwybodol bod angen ffocysu ar hyn a rhoi’r hyfforddiant priodol iddo ddigwydd.
Nododd Nicky Guy o bosib y byddai’n rhaid edrych ac adolygu'r Cynllun Gweithredu pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu newydd yn dilyn yr etholiad. Hyd hynny, disgwylir bod busnes fel arfer yn parhau. Roedd hi’n croesawu’r dull o gyd-weithio trawsadrannol a chydweithio mewn partneriaeth.
Adroddodd Janet Wademan fod yr Ymddiriedolwyr ar gael i gynorthwyo gyda’r gwaith hynny lle mae angen ei mewnbwn arbenigol.
Gyda’r pwyntiau uchod a nodwyd, cymeradwywyd y Cynllun Gweithredol ar gyfer 2026-2027.
4.4 Drafft Strategaeth Gasgliadau
Cyflwynwyd yr amlinelliad o’r Strategaeth Gasgliadau drafft gan Owain Roberts. Roedd yn agored i dderbyn adborth o’r cyfeiriad cyffredinol, ac a oes yna bethau ar goll sydd angen eu cynnwys.
Nodwyd bod y drafft mewn fformat da ac wedi ei chyflwyno’n glir, braf oedd gweld y ddwy iaith ochr yn ochr.
Cadarnhawyd ei bod hi’n adlewyrchu Strategaeth y Llyfrgell a’r Strategaeth Ymgysylltu, bydd y strategaeth yn cael ei gweithredu o nawr tan 2030. Awgrymwyd y dylid creu tabl (fel yr un sydd yn y Strategaeth Ymgysylltu) yn nodi amserlen y cerrig milltir allweddol.
Nodwyd y bydd y Llyfrgell yn gweithio’n drawsadrannol wrth weithredu’r strategaeth.
Cymeradwywyd y drafft.
Materion Corfforaethol
5.1. Adroddiadau Ariannol
5.1.1. Cyfrifon Rheoli Ionawr 2026
Cyflwynwyd y cyfrifon rheoli tan ddiwedd Ionawr 2026 gan Mererid Boswell. Dyma’r prif bwyntiau a nodwyd:
Nododd Rhodri Llwyd Morgan ein bod mewn lle da, ond, rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn wrth ystyried ein gwariant wrth arwain i mewn i gyllideb 2026-2027. Rhaid inni fod yn ofalus gan fod y sefyllfa dal yn dynn.
Eglurwyd oherwydd yr ail-strwythuro o fewn y Gyfarwyddiaeth Gasgliadau bod rhai swyddi gwag yn parhau yn y strwythur wrth i staff symud yn fewnol, ond bod swyddi uwch y Gyfarwyddiaeth i gyd yn eu lle erbyn hyn.
Bydd rhaid edrych ar strwythur staffio’r Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu oherwydd ymddiswyddiad y Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chyfryngau a fydd yn gadael y Llyfrgell ddechrau mis Ebrill. Rydym wedi hysbysebu’r swydd yn eang, gan obeithio y byddwn yn llwyddo i ddenu ymgeiswyr i weithio yn Aberystwyth.
Nododd Janet Wademan fod prosiect yr Archif Ddarlledu wedi ei ymestyn tan Rhagfyr 2026. Nodwyd mai’r elfen ymgysylltu sydd wedi ei hymestyn a bod gweddill gwaith y prosiect naill a’i wedi dod i ben neu wedi ei wreiddio i waith craidd y Llyfrgell.
Nodwyd mai taliadau trwy gerdyn oedd yn cael ei derbyn fwyaf ym Mhen Dinas.
Nododd Gronw Percy ei fod yn gobeithio gweld lleihad yn y gwariant cyn diwedd y flwyddyn ariannol i’r blynyddoedd nesaf. Mae’r diffyg yn lleihau, ac y gwella.
Cymeradwywyd y Cyfrifon Rheoli hyd at ddiwedd Ionawr 2026.
5.1.2 Cyllideb Ddrafft 2026-2027
Cyflwynwyd y gyllideb ddrafft i’r Bwrdd ym mis Ionawr, a chafodd ei thrafod ymhellach yn y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ym mis Chwefror. Mae mwy o eglurder yn y gyllideb bresennol gan fod Senedd Cymru bellach wedi cadarnhau cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd cyllideb Refeniw'r Llyfrgell yn £12.459M a’r gyllideb gyfalaf yn £4.75M.
Nododd Andrew Evans ei bryderon am y sefyllfa Codi Arian gan nad ydym i weld yn cynnyddu’r incwm fel y disgwylid. Adroddodd Mererid Boswell ei bod hi’n awyddus i brynu cymorth allanol i gynorthwyo’r tîm presennol gan fod staff priodol ar gael i ysgrifennu ceisiadau busnes a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol. Rhagwelir y bydd y gwaith allweddol hwn yn gweithio’n drawsadrannol rhwng y Gyfarwyddiaeth Gorfforaethol a’r Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu. Cytunwyd cael trafodaeth bellach ar Godi Arian yn y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.
Codwyd y cwestiwn a ddylid talu am barcio yn y Llyfrgell. Mae’r pwnc yma o dan ystyriaeth y Tîm Gweithredol yn rheolaidd, a’r penderfyniad yw nad ydym mewn sefyllfa i weithredu hyn ar hyn o bryd.
Cymeradwywyd y Gyllideb ar gyfer 2026-2027
5.1.3 Diweddariad Grantiau
Rhannwyd er gwybodaeth.
5.1.4 Defnydd o Arian Preifat
Rhannwyd er gwybodaeth.
Nodwyd bod trafodaeth wedi bod ar gyfer creu Cronfa Prosiectau Arbennig. Cronfa i gyflwyno ceisiadau clir ar gyfer prosiectau tasg a gorffen lle mae angen cymorth ariannol o ran arian gyfatebol i waith ymchwil, cyngor arbenigol neu brosiectau penodol, ond ddim at gefnogi swyddi ychwanegol, fydd hon. Cytunwyd bod angen fframwaith clir o ran sut bydd y gronfa yn cael ei gweithredu. Neilltu’r swm o £250K y flwyddyn i’r gronfa hon.
6.1 Cyflwyniad Ardaloedd Croeso
Cafwyd cyflwyniad gan Rhian Gibson ar y datblygiadau o ran Ardaloedd Croeso’r Llyfrgell. Dyma’r prif ardaloedd a drafodwyd:
Adroddiadau o Bwyllgorau
7.1 Cofnodion Drafft Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau – 10 Chwefror 2026
Rhannwyd y cofnodion drafft er gwybodaeth.
7.2 Cofnodion Drafft Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd – 17 Chwefror 2026
Rhannwyd y cofnodion drafft er gwybodaeth.
Unrhyw Fater Arall
8.1 Defnydd o Sêl y Llyfrgell
Adroddwyd bod Sêl y Llyfrgell wedi ei ddefnyddio tair gwaith fel a ganlyn:
8.2 Aelod Annibynnol – Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd
Mae cyfnod Huw Lloyd Jones fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd wedi dod i ben, ac o ganlyniad bydd Huw yn symud i fod yn aelod annibynnol o Fwrdd Rhaglen Llanbadarn. Cymeradwywyd y penodiad hwn gan yr Ymddiriedolwyr.
Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at Huw i ddiolch iddo am ei waith dros y 4 blynedd ddiwethaf fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Yn sgil hyn, a’n bod ond wedi cynnal cyfweliadau aelodau annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd yn 2024, cytunwyd ar benodi Angela Williams yn aelod annibynnol newydd o’r 1af Ebrill 2026.
Cymeradwywyd y penodiad gan yr Ymddiriedolwyr.
8.3 Materion Gweinyddol
Atgoffwyd yr Ymddiriedolwyr o’r canlynol:
8.4 Cyfarfod nesaf
10.00 o’r gloch, 15 Mai 2026 yn Aberystwyth ac ar-lein.