Ffotograffau fel lluniau
Efallai ein bod ni heddiw wedi ymgyfarwyddo â ffotograffau i'r fath raddau nes colli'r gallu i'w gweld o'r newydd fel darluniau. Rhan o lwyddiant y ffotograffwyr cynnar hyn oedd bod eu hymchwil a'u gwaith wrth ddatblygu'r cyfrwng newydd wedi golygu iddo gael ei dderbyn yn gyflym a'i gymryd yn ganiataol. O'r herwydd fe all fod yn anodd iawn gweld y ffotograffau cynnar hyn yn yr un ffordd ac yr oeddent yn cael eu gweld pan y'u tynnwyd. Ond golyga treigl amser fod rhai delweddau wedi magu bywyd newydd.
Mae'r ffotograff o arfordir Gwyr sy'n dangos merched Penlle'r-gaer, yn ifanc a gosgeiddig, yn erbyn cefndir y clogwyni, yn elfennau sy'n ymddangos yn ddiamser ac o dragwyddoldeb. Erys bywyd cenhedlaeth sydd wedi hen farw yn y ddelwedd hon o ennyd ddisymwth, ac fe deimlwn nerth emosiynol ffotograffiaeth wrth inni gael ein hatgoffa am freuder bywyd dynol. Yn y ffotograffau hyn ac eraill nid ydym ond megis dechrau cydnabod gorchest ffotograffwyr Abertawe a gweld bod eu gwaith hwy yn gwbl berffaith a phrydferth fel yr oeddent hwy yn credu ei fod.