Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwahodd gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn rôl croesawu ac ateb ymwelwyr ar gyfer profiad newydd ac arwyddocaol i ddathlu bywyd a gwaith yr arlunydd Cymreig poblogaidd, Kyffin Williams. Bydd Profiad Kyffin Experience, a fydd yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o fis Tachwedd 2026, yn coffáu 20 mlynedd ers i arlunydd mwyaf poblogaidd Cymru adael rhan helaeth o’i ystâd i’r Llyfrgell yn Aberystwyth fel rhodd i’r genedl, gan gynnwys dros 1,200 o weithiau ar bapur, 200 o baentiadau olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol.
Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu ag ymwelwyr cyn iddynt fynd i mewn i'r profiad trochi. Bydd aelodau o staff y Llyfrgell wrth law bob amser i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau neu ymholiadau penodol.
Bydd gwirfoddolwyr y rôl groesawu yn cael cyflwyniad a sesiwn flasu o'r arddangosfa gan aelodau o staff y Llyfrgell.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gwahodd gwirfoddolwyr i weithredu mewn rôl cwrdd a chyfarch ar gyfer arddangosfa‘Mary Lloyd Jones, Haenau - Layers’, sy’n rhedeg o ddiwedd Gorffennaf 2026 hyd ganol Ebrill 2027. Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu ag ymwelwyr, yn ôl y galw. Bydd staff y Llyfrgell wrth law bob amser i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau/ymholiadau penodol. Bydd y gwirfoddolwyr cwrdd a chyfarch yn derbyn cyflwyniad i’r arddangosfa gan Staff o adran Arddangosfeydd.
Mae archif ITV yn un o’r archifau teledu mwyaf yn Ewrop (tua 250,000 o eitemau) gan gynnwys caniau o ffilm, tapiau a fformatau eraill. Mae'n cynrychioli hanes diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol unigryw Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf ac mae’n cynnwys rhai o ddelweddau teledu mwyaf eiconig yr oes.
Un casgliad o fewn yr archif yw’r cardiau mynegai sy’n nodi manylion am gynnwys amrywiaeth o raglenni a wnaed gan ITV Cymru a Bryste.
Rydym yn gwahodd gwirfoddolwyr i drawsgrifio’r data sydd ar y cardiau mynegai i ddogfen Excel; bydd hyn yn galluogi yr Archifydd ITV i gopio’r trawsgrifiadau a’u huwchlwytho yn syth ar system ITV.
This is a volunteer role description where the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Pwrpas y cyfle gwirfoddoli hwn yw cyfoethogi profiad y rhai sy’n ymweld â’r Llyfrgell; bydd hefyd yn gyfle i ganfod ac ymateb i farn ein defnyddwyr ar ein gwasanaethau. Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr dwyieithog, brwd, sy’n hoff o gwrdd â pobl newydd ac sy’n medru ymdrin â phobl o gefndiroedd, a chydag anghenion, amrywiol. Bydd y tîm croeso yn sgwrsio â’r bobl sy’n ymweld â’r adeilad, yn ogystal â chynnal arolygon barn ac ymgynghoriadau perthnasol. Darperir hyfforddiant.
Mannau cyhoeddus y Llyfrgell, o dan ofal staff yr is-adrannau Cysylltiadau Allanol a Gwasanaethau Ymwelwyr.
Dros y 5 mlynedd diwethaf mae’r Llyfrgell wedi cynnal rhaglen o ddigwyddiadau byw ar-lein. Mae galw i’r rhain cael eu hychwanegu i sianel YouTube y Llyfrgell ac maent yn adnodd gwerthfawr.
Yn ystod cyfnod y clo bu i aelodau staff (oedd yn methu cyflawni eu gwaith arferol i’r Llyfrgell) ymgymryd â’r gwaith yma; ond gan eu bod bellach wedi dychwelyd i’w priod waith nid oes neb i wneud y gwaith hwn. Mae cyfle felly i wirfoddolwyr i ymgymryd â’r dasg.
Yn hanesyddol mae’n aneglur os oedd gwaith is-deitlo cyflwyniadau’r Drwm yn cael ei wneud gan staff, ond yn sicr dydi is-deitlo digwyddiadau wedi’u cyflwyno’n syth ar-lein heb ei wneud heblaw am gyfnod y clo.
Bydd staff yn creu cyfrif YouTube newydd yn benodol ar gyfer gwirfoddolwyr i gyflawni’r dasg, cyn bod staff yn trosglwyddo’r cyfan i gyfrif LLGC.
Mae hon yn dasg fyddai’n hefyd gallu cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr o bell.
Ganwyd Watkin William Price ar 4 Medi 1873 yn Aberaman, Aberdâr, Morgannwg. Ei alwedigaeth oedd athro ysgol, er iddo dreulio llawer o’i oes yn ymchwilio i hanes a bywgraffiadau ei sir leol.
Mae’r casgliad hwn o gardiau mynegai a thoriadau papur newydd, sy’n ymwneud ag unigolion nodedig sydd â chysylltiad Cymreig, yn rhan o’i etifeddiaeth. Mae ei waith hefyd yn cynnwys traethodau, cofnodion a thrawsgrifiadau.
Rydym yn gwahodd gwirfoddolwyr i drawsgrifio’r wybodaeth o’r cardiau mynegai i mewn i ddogfen Excel. Bydd hyn yn galluogi staff y llyfrgell i adnabod unigolion nodedig yn gyflym yn ôl lleoliad, enw, galwedigaeth a manylion allweddol eraill.