Am y Prosiect
Mae gwefan Lleoedd Cymru yn caniatau i chi chwilio a darganfod eitemau neu wybodaeth berthnasol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ryngwyneb daearyddol. Ein bwriad yw datblygu'r wefan i gynnwys gwybodaeth eang yn ymwneud â Chymru a'r Cymry. Mae ar hyn o bryd yn canoli ar haenen fapio a grewyd o fapiau degwm Cymru er mwyn creu map cyflawn o Gymru ar gyfer y cyfnod o gwmpas 1840.
Beth yw mapiau degwm?
Taliadau a godwyd ar ddefnyddwyr tir oedd y degwm. Yn wreiddiol gwnaed y taliadau hyn mewn nwyddau megis cnydau, gwlân, llaeth a stoc. Cynhyrchwyd mapiau degwm rhwng 1838 ac 1850 i sicrhau bod y degwm yn cael ei dalu ag arian yn lle cynnyrch.
Dyma fapiau mwyaf manwl y cyfnod ac mae map degwm ar gyfer 95% o dir Cymru. Mae'r rhestrau pennu ar gyfer pob map yn rhestru taliadau, enwau perchnogion a deiliaid tir, defnydd tir ac enwau caeau (yn achos 75% o'r mapiau).
Mae set bron yn gyflawn o'r mapiau degwm ar gyfer Cymru ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o gofnodion esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru, a fu mor garedig â chaniatáu iddynt gael eu digido fel rhan o brosiect Cynefin. Cafodd set gyflawn o'r rhestrau pennu cysylltiedig eu darparu ar ffurf ddigidol gan yr Archif Genedlaethol (The National Archives) yn Llundain, a oedd wedi digido rhain cyn dechrau'r prosiect.
Prosiect Cynefin
Rydym wedi gallu datblygu'r wefan hon trwy brosiect Cynefin: Mapio'r Ymdeimlad o Le yng Nghymru, a gynhaliwyd rhwng 2013 a 2017 ac a oedd â'i bencadlys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Arweiniwyd y prosiect gan Gyngor Archifau Cymru, sy'n fudiad ymbarél i'r holl archifau sydd wedi'u hariannu yn gyhoeddus yng Nghymru ac sydd ag aelodau o sefydliadau cenedlaethol yn ogystal ag archifau awdurdodau lleol a phrifysgol. Ariannwyd prosiect Cynefin gan Gronfa Treftadaeth y Loteri gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Rhwng 2013 a 2017, glanhawyd, atgyweirwyd a digidwyd 1,224 o fapiau degwm yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o'r prosiect. Defnyddiodd 1,354 o wirfoddolwyr wefan torfoli i drawsgrifio a geo-gyfeirio y mapiau hyn, gan fynegeio 28,105 tudalen o restrau pennu i gynhyrchu cyfanswm trawiadol o 1,837,359 cofnod mynegeiol i'r wefan.
Yn ogystal, fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd chwe phrosiect lleol ar draws Cymru, gyda phob un yn cymryd agwedd o'r mapiau degwm fel man cychwyn ar gyfer archwilio eu cymuned leol a'i hanes. Gallwch ganfod mwy am y prosiect craidd a'r chwe phrosiect lleol ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Telerau defnydd
Noder bod cyfyngiadau hawlfraint ar y mapiau modern a ddefnyddir ar y wefan ac na chewch wneud copiau oni bai eich bod wedi cael caniatâd neu bod eithriad i gyfriath hawlfraint yn berthnasol.
Gall atgynhyrchiadau digidol fod dan hawlfraint neu hawl cronfa ddata. Cysylltwch â gofyn@llgc.org.uk i wneud cais am gopi ansawdd uchel.
Cydnabyddiaeth
Cynhyrchwyd haen y map degwm gan ddefnyddio 1,224 o fapiau degwm o'r 1,091 o blwyfi yng Nghymru a arolygwyd gan Gomisiynwyr Degwm (noder bod nifer fechan o blwyfi Cymreig wedi eu heithrio o'r arolwg gwreiddiol, fel arfer ble roedd holl dir y plwyf yn eiddo i un tirfeddiannwr a thaliad y degwm wedi ei gyfuno gyda rhydd-ddeiliadaeth cyn Deddf Cymudo'r Degwm). Yn ogystal â'r mapiau degwm o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rydym hefyd wedi cynnwys mapiau o'r archifdai a ganlyn:
- Yr Archifdy Gwladol
- Canolfan Archifau ac Ymchwil Swydd Henffordd
- Archifdy Lichfield
- Archifdy Sir Gaer
- Archifau Môn
- Archifdau Gwynedd
- Archifau Sir Ddinbych
- Archifau Powys
Hoffem ddiolch iddynt oll am gefnogi Prosiect Cynefin.
Mae'r rhestr o enwau lleoedd sydd yn ymddangos yn yr adran 'Canfod Lle' yn cynnwys data OS © Hawlfraint y goron a Hawl Cronfa Ddata (2016).
Gwneud cais am gopiau neu ailddefnyddio
Os hoffech chi wneud cais am gopi o unrhyw un o'r ffynonellau gwreiddiol a welir ar y wefan neu os hoffech chi ddefnyddio'r set data neu unrhyw elfen o wefan Lleoedd Cymru, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ymholiadau.