Symud i'r prif gynnwys

Pam ydych chi angen fy ngwybodaeth bersonol?

At bwrpas gwneud taliad am wasanaeth a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ar ba sail fyddwch chi’n prosesu’r data?

Cytundebol, ar sail y ffaith fod eu hangen i brosesu taliad.

A fydd unrhyw un arall yn derbyn copi o’r data?

Ni fyddwn yn rhannu eich data ag unrhyw un y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Am ba hyd y byddwch yn cadw'r data personol?

Bydd y manylion yn cael eu dileu unwaith y bydd y taliad wedi'i brosesu.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru?

Ni allwn ni ddarparu deunydd ar eich cyfer.

Pwy fydd yn gyfrifol am reoli'r data rwy'n ei ddarparu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ble mae modd cael hyd i fwy o wybodaeth?

Ceir gwybodaeth bellach am ein polisï gwarchod data ar ein tudalen Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.