Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru 10 o wefrwyr 75kw a 30 o wefrwyr 22kw sy’n darparu capasiti ar gyfer cyfanswm o 40 o gerbydau trydan sy’n golygu mai’r Llyfrgell Genedlaethol yw’r ganolfan wefru fwyaf yng Nghymru. Bydd y gwefrwyr Tritium yn gwefru o 0 i 80% mewn tua 25 munud tra bydd y gwefrwyr 22kw yn cymryd 3-5 awr yn dibynnu ar fodel y car. Gallwch dalu drwy derfynell Payter, yr ap Fuuse, neu drwy eich porwr gwe ar eich ffôn clyfar.
Tra bo’ch car yn gwefru gallwch:
- Porwch y casgliadau yn arddangosfeydd y Llyfrgell
- Ailfyw atgofion trwy glipiau teledu hanesyddol yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru
- Ymlacio gyda phaned o de neu goffi a chacen ffres yng Nghaffi Pen Dinas
Pethau i'w gwneud yn y Llyfrgell