Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Sector Gyhoeddus 2015 (SI 2015 No.1415) yn ei gwneud yn haws i ailddefnyddio gwybodaeth sector gyhoeddus. Mae'n ofynnol bod sefydliadau diwylliannol cyhoeddus yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth all gael ei hail-ddefnyddio, ei brisio, a'r telerau ac amodau ar gyfer ei ailddefnyddio.
O dan y Rheoliadau, rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddiffinio a chyhoeddi ei Thasg Gyhoeddus er mwyn penderfynu pa wybodaeth a ystyrir yn Wybodaeth Sector Gyhoeddus.
Mae Tasg Gyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru ("y Llyfrgell") o dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2005 ("y Rheoliadau") yn cynnwys cynhyrchu, cynnal a chadw, a defnyddio dogfennau at ddibenion:
Mae fframwaith cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer Tasg Gyhoeddus y Llyfrgell wedi ei nodi gan y swyddogaethau a breintiau y mae'r Llyfrgell yn atebol am:
Mae'r Llyfrgell yn cynhyrchu, cynnal, ac mae'n defnyddio dogfennau o fewn ei Thasg Gyhoeddus
Mae gwybodaeth am ailddefnyddio dogfennau o dan y Rheoliadau ar gael ar dudalen Hawlfraint y Llyfrgell.
Gall cwestiynau am y datganiad hwn cael eu cyflwyno drwy dudalen Cysylltu a'r Llyfrgell.
Gellir cyfeirio cwynion am y datganiad hwn drwy weithdrefn Gwynion y Llyfrgell.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei adolygu bob 4 blynedd ac i fod i gael ei ystyried eto yn 2028.
Mae pob gwybodaeth a gynhyrchir, a ddelir neu a ddosberthir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o'i Thasg Gyhoeddus yn cael ei diffinio fel Gwybodaeth Sector Gyhoeddus o dan Reoliadau Ailddefnydd Gwybodaeth Sector Gyhoeddus 2015 (SI 2015 No.1415).
Ceir disgrifiad o'r wybodaeth hon yn y Rhestr o Asedau Gwybodaeth.