Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r wybodaeth a gynhyrchir, a ddelir ac a ddosberthir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o'i thasg gyhoeddus yn dod o dan Reoliadau Ailddefnydd Gwybodaeth Sector Gyhoeddus 2015 (SI 2015 No.1415). O dan y Rheoliadau hynny, mae'n ofynnol bod sefydliadau sector cyhoeddus yn cyhoeddi rhestr o'u asedau gwybodaeth sy'n cynnwys gwybodaeth gyhoeddiedig a gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi.
Mae asedau gwybodaeth y Llyfrgell wedi eu categoreiddio fel a ganlyn:
| Eitemau a restrir yng Nghynllun Cyhoeddi y Llyfrgell | Gweler, Rhyddid Gwybodaeth* |
| Gwybodaeth yn ymwneud â llywodraethiant a rheolaeth y sefydliad, gan gynnwys: | Ar gael drwy gais* |
| - dogfennaeth gorfforaethol | |
| - gwybodaeth gytundebol | |
| - adnoddau dynol | |
| - cyllid a chodi arian | |
| - rheoli gwybodaeth | |
| - gwasanaethau i ddarllenwyr | |
| - iechyd a diogelwch | |
| - y wasg a chysylltiadau cyhoeddus | |
| Gwybodaeth yn ymwneud ag adeiladau'r Llyfrgell a'u cynnal | Ar gael drwy gais* |
| Gwybodaeth yn ymwneud â chasgliadau'r Llyfrgell, gan gynnwys:: | Ar gael drwy gais* |
| - casgliadau ffisegol | Ar gael am dal ac o dan drwydded safonol oni nodir yn wahanol** |
| - casgliadau digidol | Ar gael am dal ac o dan drwydded safonol oni nodir yn wahanol** |
| - gwybodaeth gatalog a metadata | |
| Gwybodaeth yn ymwneud â phrosiectau a ariennir yn allanol | Ar gael drwy gais* |
* Gallai natur y wybodaeth (hawlfraint trydydd parti, gwybodaeth bersonol neu wedi'i heithrio rhag mynediad o dan ddeddfwriaeth gwybodaeth) olygu nad yw ar gael i'w ailddefnyddio. Bydd pob cais yn cael ei hasesu yn unigol.
** Ceir rhagor o wybodaeth ar y tudalennau Atgynhyrchu Deunydd a Hawliau a Thrwyddedu.
Os hoffech chi wneud cais am wybodaeth oddi wrth y Llyfrgell, anfonwch eich cais at y Gwasanaeth Ymholiadau os gwelwch yn dda.
Byddwch yn derbyn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os hoffech chi wneud cwyn am gydymffurfiaeth y Llyfrgell ag unrhyw agwedd o Reoliadau 2015, anfonwch eich cwyn at cwynion@llyfrgell.cymru os gwelwch yn dda. Rhaid i’ch cwyn:
Bydd eich cwyn yn cael ei asesu o dan broses cwyno y Llyfrgell a byddwch yn derbyn ymateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os nad yw ymateb y Llyfrgell yn datrys y gwyn, mae’n bosib y byddwch yn dymuno ei dyrchafu i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). Mae gan y SCG ganllawiau ar eu rôl yn y proses cwyno a chyfundrefn y dylai cyrff sector diwylliannol ac achwynwyr ei ddilyn pan fydd cwyn yn cael ei dyrchafu.
-