Symud i'r prif gynnwys

Rydym yn elusen ac mae eich rhoddion, waeth pa mor fach neu fawr, yn helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ddim ac y gallwn barhau i gyfoethogi cymdeithas, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. P’un a ydych yn ymwelydd, yn wirfoddolwr, yn ddarllenwr neu’n sefydliad elusennol, mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn ein helpu i:

 

  • adeiladu ac adnewyddu orielau a mannau cyhoeddus

  • darparu cyfleoedd i deuluoedd a phlant ysgol chwarae, archwilio a chreu

  • curadu arddangosfeydd o safon fyd-eang

  • pwrcasu, gwarchod, digido a rhoi mynediad i gasgliadau

  • datblygu ein rhaglen ddysgu a digwyddiadau

  • a chadw'r Gymraeg yn fyw.

 

Mae eich rhodd yn helpu i warchod stori Cymru ac ysbrydoli cenedlaethau i ddod. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. 



Cysylltwch â ni os hoffech drafod dull gwahanol o gyfrannu.

 

Swyddfa Codi Arian,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3BU
+ 44 (0) 1970 632 938


gofyn@llgc.org.uk