Rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer aelodau yn 2025
19 Chwefror 2025 am 1.00pm, Drwm & ar-lein, LlGC
“Tales from the Great Houses of Crickhowell” Elizabeth Siberry
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg
30 Ebrill 2025 am 1.00pm, Arddangosfa Uwch Gyntedd, LlGC
Taith o amgylch arddangosfa Byd Bach Aber Bruce Cardwell gyda Wil Troughton
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg
14 Mai 2025 am 1.00pm, Drwm & ar-lein, LlGC
“Radio Times: P H Burton and the BBC” Angela V John
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg
6 Awst 2025 am 1.30pm, Stondin LlGC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Digwyddiad y Cyfeillion yn yr Eisteddfod
Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg
1 Hydref 2025 am 1.00pm, Ystafell y Cyngor & Ar-lein, LlGC
Sgwrs gyda churaduron y Llyfrgell
Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg gydag opsiwn cyfieithu ar y pryd
10 Rhagfyr 2025 am 1.00pm, Oriel Gregynog, LlGC
Taith o gwmpas yr arddangosfa diweddaraf
Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg gydag opsiwn cyfieithu ar y pryd
Ymuno fel aelod
I ddod yn aelod o Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llenwch y ffurflen isod ac anfonwch hi at cyfeillion@llgc.org.uk neu at:
Gwenda Sippings
Cadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Math o Aelodaeth | Isafswm cyfraniad blynyddol a awgrymir |
---|---|
Unigol | £25 |
Ar y cyd | £40 |
Myfyriwr | £5 |
Prosiectau diweddar a ariennir gan Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru
-
Parhau i gefnogi’r Strategaeth Tlodi Plant, sydd wedi galluogi plant o lawer o ysgolion i ddod i’r Llyfrgell am ddim.
-
Cefnogaeth Gwirfoddoli o fewn y Llyfrgell, sydd wedi helpu pobl i gymryd rhan mewn llawer o brosiectau cyffrous a gwerth chweil.
-
Cyfrannu er mwyn gwireddu amcanion Strategaeth Tlodi Plant y Llyfrgell a rhai agweddau o brosiect 'Llawysgrif Boston'.
-
Cyfrannu at adnewyddu Caffi Pen Dinas, creu ffacsimili o Lyfr Aneirin a phrynu llythyr gan Dylan Thomas at Augustus John yn 1945.