Symud i'r prif gynnwys

Menter gan Ymchwil LlGC i ddarparu mynediad at gasgliadau digidol a gedwir gan LlGC sy’n ddefnyddio dulliau heblaw am y catalog neu wefannau llyfrgell draddodiadol yw Data LlGC.

Rhestr o Setiau Data

Beth yw Data LlGC?

Mae defnyddwyr llyfrgelloedd yn gyfarwydd â chael mynediad at gasgliadau LlGC ar-lein drwy'r Catalog a gwefannau casgliadau digidol fel Papurau Newydd Cymru Arlein. Mae Data LlGC yn fenter gan Ymchwil LlGC sy’n bwriadu cynnig mynediad at gasgliadau digidol LlGC gan ddefnyddio dulliau heblaw’r blychau chwilio traddodiadol, gan alluogi defnyddwyr i wneud mwy gyda'r data. Bydd yn fodd hefyd i ddarparu mynediad at ddata nad yw ar gael trwy ddulliau eraill.

Pwy all ddefnyddio Data LlGC?

Pawb!  Yn ymarferol, bydd angen rhywfaint o wybodaeth dechnegol er mwyn gallu trin y setiau data. Bydd faint o wybodaeth yn dibynnu, i ryw raddau, ar y strwythur a’r math o ddata, ond mae’n debyg mai’r prif ffactor bydd y dull cyflwyno. Er enghraifft efallai y bydd ymchwilydd yn gallu lawrlwytho ffeil CSV o'r wefan a'i llwytho i mewn i'w feddalwedd dadansoddi ei hun ond gall ei chael yn anodd i ddefnyddio API.

A fyddaf yn dal i fedru cael mynediad i’r casgliadau drwy Gatalog y Llyfrgell?

Nid yw’n fwriad i’r gwasanaeth yma gymryd lle gwasanaethau presennol LlGC ond yn hytrach i ychwanegu at yr hyn sydd eisoes ar gael drwy’r rhyngwynebau confensiynol megis y Catalog Arlein.

Pa gasgliadau fydd ar gael drwy Data LlGC?

Rydym yn rhagweld y bydd llawer o wahanol fathau o gasgliadau yn cael eu hychwanegu at Data LlGC yn y dyfodol. Byddwn yn canolbwyntio ar setiau data nad ydynt ar gael ar hyn o bryd trwy ddulliau eraill.