Mae casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar flaenau eich bysedd. Chwiliwch trwy in casgliadau eang, ac archebwch ddeunydd i'w bori yn yr Ystafell Ddarllen.
Darganfyddwch sut mae ein canfyddiad o Gymru wedi newid. O rai o’r mapiau hynnaf o Gymru i fapiau lleol a wnaed â llaw, a phopeth yn y canol. Mapiau yw ein porth i'r gorffennol.
Mae casgliadau digidol yn cynnig cyfleon cyffrous i ymchwiliwr gan bod cyfle i gymwyhso ddulliau ac offer digidol newydd i:
Hwyluso a gwella ymchwil, trwy hwyluso prosesau yn defnyddio offer a dulliau cyfrifiannu Er enghraifft: chwilio a pori setiau mawr o ddata, dod a casgliadau gwasgaraedig at eu gilydd ar ffurf ddigidol, cyd-weithio ar setiau o ddata gwasgaraedig
Galluogi ymchwil na fyddai’n bosibl fel arall: ateb cwestiynau ymchwil a fyddai wedi bod yn amhosibl i’w hateb heb ddulliau ac offer digidol Er enghraifft: cloddio data ar raddfa eang, defnyddio technegau delweddu i ddarganfod rhannau ‘cudd’ o lawysgrifau neu weithiau celf ayyb.
Galluogi ymchwilwyr i ofyn cwestiynau ymchwil newydd h.y. cwestiynau sy’n ymateb i arsylwadau a oedd yn bosibl oherwydd y defnydd o dulliau ac offer newydd Er enghraifft: defnyddio technegau delweddu blaengar (e.e. photospectral i ddelweddu hen lawysgrifau) a defnyddio’r canlyniadau i ddatblygu cwestiynau ymchwil newydd