Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Ymchwil LlGC yn arwain, neu'n bartner, mewn nifer o brosiectau e-Ymchwil ar y cyd.
Mae hwn yn brosiect masddigido, a ariennir gan JISC, mewn cydweithrediad â chasgliadau arbennig ac archifau Cymru i ddigido'r ffynonellau cudd am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru: yr iaith, diwylliant, gwleidyddiaeth a'r gymuned.
Bydd y prosiect hwn a ariennir gan JISC yn cysylltu archifau digidol deunydd seneddol, hanesyddol a chyfoes, trwy greu cynllun metadata unedig ar gyfer ei holl brif elfennau.
Bydd y prosiect hwn yn datblygu llwyfan cymorth torfol ar gyfer enwau lleoedd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Galaxy Zoo, Casgliad y Bobl, Cymru a Phrifysgol Cymru.