Symud i'r prif gynnwys

Llun pennawd: Matías Valenzuela ©

 

Mae stori gwladychiaeth ymsefydlwyr fel arfer yn cael ei hadrodd o safbwynt hegemonaidd cytûn sy’n apelio at y syniad o “ddiwylliannau’n cyfarfod” ond sy’n anwybyddu unrhyw leisiau eraill. I’r gwrthwyneb, mae prosiect “Problemateiddio Hanes: Safbwyntiau brodorol ​​ar yr ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia” yn mynd ati i geisio amrywio’r safbwyntiau ar sefydlu Patagonia, gan ailymweld â gweithiau ymchwil diweddar, llwybrau a phrofiadau bywyd, tystiolaeth lafar, ac atgofion a wnaethpwyd yn anweledig, a’u gwadwyd, neu a’u gwthiwyd i’r ymylon.

Mae’r prosiect digidol hwn yn arddangos cyflwyniadau creadigol brodorol sy’n ymwneud â hanes Chubut a gynhyrchwyd gan bedwar cais a ymatebodd i’n galwad am gyfraniadau i drafod y berthynas rhwng y bobloedd frodorol, y mewnfudwyr Cymreig a Gwladwriaeth yr Ariannin. Yn nhrefn yr wyddor, y mentrau hynny yw:

Tîm cyfarwyddo a threfnu

Geraldine Lublin, Mariela Eva Rodríguez, Carolina Crespo, Ayelén Fiori, Julieta Magallanes, Ana Margarita Ramos, Kaia Santisteban, Valentina Stella a María Marcela Tomás.

Cyfieithiadau Cymraeg a Saesneg: Llewelyn Hopwood.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC, DU) ac fe’i cynhelir trwy gydweithrediad Prifysgol Abertawe (Cymru, DU), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a’r Grupo de Estudios sobre Memorias Alterizadas y Subordinadas (GEMAS). Wedi’i ffurfio yn 2008 gan anthropolegwyr gyda diddordeb mewn cof cymunedol, mae rhwydwaith GEMAS bellach yn cynnwys llu o weithgorau a mentrau – ymchwil, mapio, cyhoeddi cylchgronau, a pherfformiadau cyhoeddus – sy’n cael eu rhedeg gan ymchwilwyr, arbenigwyr, myfyrwyr a phobloedd frodorol.

Diolchiadau

Mae’r diolch mwyaf i’r rhai a atebodd yr alwad am gyfraniadau. Hebddynt, ni fyddai’r prosiect hwn yn bosibl. Diolch hefyd i:

Dafydd Tudur, Rhian James a Bethany Schofield, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eluned Haf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Llewelyn Hopwood a Mererid Hopwood, Geraint Daniel a Rhian James (Prifysgol Abertawe), Liliana Ancalao, Diego Vainer, Andrés Dinamarca, Ioan Llŷr Brooks, Violeta Chillier, Ana Clara Cantero Simms.

 

Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich sylwadau ar yr arddangosfa. Gadewch i ni wybod eich barn yma!