Symud i'r prif gynnwys

PROSIECT: Atgofion a straeon hynafiaid tiriogaeth y Mapuche:

Problemateiddio hanes swyddogol rhanbarth Paso de Indios, Chubut

 

Dysgom wrth ein cyndeidiau fod teuluoedd lofche y Pichiñan wedi ymsefydlu yn Paso de Indios tua’r flwyddyn 1900, pan gawsom ein gyrru allan gan ymgyrchoedd milwrol diwedd y 19eg ganrif. Mae hanes swyddogol Chubut yn tawelu straeon y Mapuche ac yn gadael i eiriau fel “cynnydd” a “gwladfawyr Cymreig” i atseinio; gwladfawyr yr oedd gennym gysylltiadau â nhw. Gyda chefnogaeth y Wladwriaeth, estynnwyd ffensys dros ein tiriogaeth gan ddod â darostwng, aflonyddu a gwahaniaethu atom. Fodd bynnag, rydym yn parhau i wrthsefyll ac yn ymladd i adennill ein hanes, gan ddefnyddio gwybodaeth ein hynafiaid ac atgofion ein lof, sef yr hyn a rannwn yn y cyflwyniad fideo hwn.

 

Fideo: Memorias y relatos de las y los antiguos del territorio mapuche

Agustín Pichiñan

Mapuche ydw i, mab Marcelo Pichiñan a María Luisa Guanqui. Rwy’n dri deg naw oed ac yn perthyn i gymuned Cerro Cóndor. Pan ges i fy ngeni, fy nhad a ofalodd amdanaf gan i fy mam roi genedigaeth gartref, a dyna a ddigwyddodd i’r rhan fwyaf o’m brodyr a chwiorydd hefyd. Ro’n ni’n bymtheg brawd a chwaer gyda’i gilydd! Treuliais fy mhlentyndod yn y pentref, sy’n rhan o diriogaeth hynafol lofche y Pichiñan, lle cwblheais ysgol gynradd yn Escuela No 31. Rwy’n ffermwr ac mae gennyf dri o blant: dau fachgen a merch sy’n mynd i’r ysgol yn Escuela No 15, Paso de Indios. Fel lofche, rydym yn brwydro er mwyn amddiffyn ein tiriogaeth ac yn ceisio adrodd ein hanes ni a hanes ein cyndadau.

 

Deunydd ychwanegol

Lofche Pichiñan. 2023. Territorio Pichiñan, Editorial GEMAS.
Fforwm trawn, Cerro Cóndor, 2024.

Diolchiadau

Cymuned Mapuche Cerro Cóndor.
Fy ewythr Nemesio Pichiñan.
Fy chwaer María.
Fy nith Fernanda Rufino.
Mickaela Constante.
Grŵp Puel Kona.
Denali DeGraf.
Rhwydwaith GEMAS.
Prifysgol Abertawe.
AHRC-UKRI.