Symud i'r prif gynnwys

Llun pennawd: Romina Bravo ©

 

PROSIECT: Puel Willi Mapu Mew: Taiñ Zungun

 

Dychmygaf weithiau sut le fyddai pentrefi’r Puelmapu 

pe bai, ar eu trothwy, gerflun o’r

yn dangos ei frest wen,

ond yr oll sydd yno yw

ryw ddraig

neu ryw ddinosor.

Nychwn yn ystafell aros hanes.

Does gennym ni’r un cofeb.

 

(“Kiñe”[Un], gan Viviana Ayilef)

 

Trwy gyfrwng Puel Willi Mapu Mew: Taiñ zungun, cyflwynwn i’r byd ein hatgofion am hanes lof [cymuned] y Huisca Antieco a’n cyd-fyfyrdodau ar pam y cymerodd gymaint o amser i ni gyflwyno ein geiriau. Yn y perfformiad hwn, lle parchwn gydbwysedd strwythurol y meli [pedwar], cyflwynwn eiriau dan lefaru a than ganu am yn ail mewn pedair rhan. Trafodwn beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o broses ailadeiladu diwylliant hynafol a goblygiadau byw mewn tiriogaeth sydd wedi’i hamgylchynu gan ddisgwrs hegemonaidd sy’n coffáu’r rifleros Cymreig. Coffeir eu dyfodiad fel chwedl epig ac fe’i henwir yn arwyr a ‘ddarganfu’ ein tir gan dewi ein bodolaeth cyn hynny, fel pobl Tehuelche Mapuche, ac arwain at drais anrheithio a throi allan ein lof. Cyfunir straeon, barddoniaeth a chaneuon hynafol a chyfoes, gan wrando ar bobl y Mapuche Tehuelche heddiw, ar ein kuifikecheyem [cyndeidiau], ar rymoedd byw’r ardal, ac ar aelodau cymdeithas nad ydynt yn Mapuche. Llefarwn ein geiriau fel na fydd ein lleisiau a’n gwirioneddau yn aros yng nghysgod ebargofiant.

 

Perfformiad:  Puel Willi Mapu Mew: Taiñ Zungun

 

Viviana Yanina Ayilef

Rwy’n aelod o’r Colectivo Intercultural Tükulpan [Grŵp Amlddiwylliannol Tükulpan]. Hyfforddais fel athro ac mae gen i radd israddedig a meistr yn y Celfyddydau. Rwy’n athro prifysgol ar gwrs y Celfyddydau ym Mhrifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco (UNPSJB) yn Nhrelew ac yn aelod o’r Centro de Estudios de Lenguas y Literaturas Patagónicas y Andinas (CELLPA) [Canolfan Astudiaethau Ieithoedd a Llenyddiaethau Patagonia a’r Andes]. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr ar brosiect ‘Narrativa y representación colonial sobre el pueblo mapuche tehuelche en Chubut: Parques Nacionales, museos, monumentos y efemérides’ [Naratifau a phortreadau trefedigaethol ynghylch pobl Mapuche Tehuelche Chubut: Parciau Cenedlaethol, amgueddfeydd, henebion a gwyliau coffáu] ar y cyd gyda Cristian Matías González Valenzuela. Yn ogystal â hynny, rwy’n rhan o Uned Weithredu’r prosiect ‘Biopoéticas del sur: Resistencias y disidencias a la biopolítica estatal en el sur de Argentina y Chile (corporalidad, archivos y textos literarios: S XIX, XX y XXI)’ [Biofarddoniaeth y de: gwrthwyneb ac anghydffurfio â biowleidyddiaeth y Wladwriaeth yn ne’r Ariannin a Chile (corffoledd, archifau, a thestunau: y 19eg, 20fed, a’r 21ain G)], dan gyfarwyddid Jorge Spíndola. Mae daearyddiaeth ein byd heddiw yn taflu arnaf: byd lle rydym yn ymddangos fel estroniaid. Felly y mae hi ac felly yr oedd hi. Mae’r ymdeimlad hwn wedi tyfu’n gryfach ynof dros y blynyddoedd diwethaf wrth imi deithio’n fynych tua’r mynyddoedd gyda fy lamgen [chwiorydd a brodyr]. Yno, roedd hi’n amhosib peidio â thrafod yr arwyddion glas sy’n nodi’r llwybr twristaidd Cymreig a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â llwybrau’r bobl frodorol. Rwyf wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth: Agua de otoño/Kelleñü [Dŵr yr hydref] (2011), Cautivos [Carcharorion] (2013), Meulen [Gallu’r corff] (2017), Mailen (2020) ac Ayün/Memorias del agua [Atgofion o’r dŵr] (2023).

 

Gerónimo Gil

Astudiais gerddoriaeth yn yr ysgol uwchradd a bellach rwy’n hyfforddi i fod yn athro cerddoriaeth yn Instituto de Formación Docente de Trelew [Coleg Hyfforddi Athrawon Trelew]. Camais i fyd cerddoriaeth pan ymunais â cherddorfa Andrés Chazarreta. Rwyf wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd Movimiento de Orquestas latinoamericanas de Patagonia (MOLPA) [Mudiad Cerddorfeydd America Ladin Patagonia] ers pedair blynedd. Derbyniais ganmoliaeth am fy ngwaith gwehyddu Mapuche yn Feria Nacional de Artesanía y Arte Popular “Augusto Raúl Cortazar”.

 

Mónica Viviana Melipan

Rwy’n aelod o gyngor y cynrychiolwyr fel llywydd cymuned Mapuche Tehuelche ‘Huisca Antieco’. Rwyf wedi gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd radio ar y rhaglen Mapuche ‘Awkin Mapu’ [Adlais y tir] ar Radio Nacional Esquel. Rwyf wrthi’n cwblhau fy ngradd israddedig mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco (UNPSJB) ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel kimeltuchefe [addysgwr traddodiadol] yn Escuela No 107 yn ardal Nahuelpan. Yn bennaf oll, rwy’n fam.

Cychwynnais o ddifri ar y llwybr Mapuche hwn pan oeddwn i’n tua deuddeg a dywedwyd wrthyf: ‘Mae dy enw olaf yn Mapuche ac mae’n golygu pedwar pwma.’ Ers hynny dechreuais chwilio am fy hunaniaeth ddiwylliannol a dod o hyd i atebion i’r cwestiwn: beth mae’n ei olygu i fod yn Mapuche? Hynny yw, beth yw’r ngen [endid gwarchodol] Mapuche? Beth amser yn ôl, cefais pewma [breuddwyd] lle’r oedd hen wraig yn dweud wrthyf, ymhlith pethau eraill: ‘rhaid ichi ddechrau siarad’. Ac ers hynny, dyma fi’n dechrau codi momentwm ar y daith hon. Felly, ers tro bellach, rwyf wedi bod yn dilyn yn ôl traed fy neiniau a theidiau a gorhendeidiau, gan ymweld â chymunedau a thiriogaethau Mapuche Tehuelche gwahanol a chymryd rhan mewn gwahanol trawn [cyfarfodydd], seremonïau, sgyrsiau, a phrofiadau eraill. Rwyf o hyd eisiau dysgu mwy am ein hiaith, y Mapuzungun-Chezungun, ac yn ceisio troedio’r llwybr hwn yn iawn.

 

Iván Paillalaf

Rwy’n perthyn i gymuned Mapuche-Tehuelche Laguna Fría-Chacay Oeste ar wastatir canol y gogledd. Rwy’n astudio Hanes ym Mhrifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco (UNPSJB) yn Nhrelew, a rhwng 2020 a 2023 bûm yn rhan o’r tîm arbenigol a oedd yn cydlynu rhaglen Addysg Amlddiwylliannol a Dwyieithog  talaith Chubut. Ar hyn o bryd rwy’n Kimeltuchefe ar gwrs Addysg Barhaol Ieuenctid ac Oedolion (EPJA) N° 7716 a N° 763 yn Nhrelew ac yn Escuela No 7705 yn Rawson.

 

Ffynonellau a ddefnyddiwyd

Ancalao, Liliana (2015). Sobre el feriado provincial del 3 de noviembre, Facebook.
Pérez, Liliana (2015). El cacique Antonio y el derrotero de una carta. Política indígena y avance colonizador. Chubut, 1865-1870”, Revista Tefros, 13, Nº 2 : 126-148.  
Pérez, Liliana (2015) Keu-kenk: Política indígena en la Patagonia 1865-1956. Trelew: Remitente Patagonia.
Ministerio de Agricultura de la Nación, Oficina administrativa legalizaciones- entradas y archivo, Expediente N° 104588, 1919. 

Diolchiadau

Ein fütakecheyem a phob un sydd wedi ein haddysgu ac wedi gwrando arnom. 
Centro Cultural por la Memoria de Trelew a'i staff.
Al Grupo de Estudios sobre Memorias Alterizadas y Surbordinadas (GEMAS).